Mae Daf y gath yn sefyll yn ansefydlog yng nghanol Caerafa yng nghwmni’r enwog Julian Rope, sef y Gwrthbab. Mae hi eisiau gofyn iddo a oes ganddo’r grŵf, ond mae hi mor feddw oherwydd tabled goch Giuseppe y siaman, all hi ddim siarad. O diar. Pwy yw’r dyn draw fan acw sy’n rhoi cwtsh i…
Month: May 2026
1365: Clawdd
Mae Daf y gath wedi cymryd un o dabledi coch Giuseppe y siaman, er mwyn trio dod o hyd i’r grŵf ar daith fewnol. — Sdim byd yn digwydd, medd Daf wrth Giuseppe, wrth iddi doddi a diflannu mewn cwmwl amryliw. Mae hi’n teimlo ei hun yn cwympo, cyn glanio mewn swp. Am eiliad mae…
1364: Siaman
Collodd Daf y gath y grŵf tra’n ymarfer gyda’r band Y Pryfed Pren yn y Fatican. Nawr, mae hi’n trio ffeindio fe. Ond ble mae’r grŵf wedi mynd? Yn amlwg, dyw e ddim yn y Fatican ei hunan. Fel arall byddai’r cardinaliaid i gyd yn grŵflyd. Nid ydynt. Mae Daf yn cwrdd â siaman y…
1363: Y grŵf
Mae Daf y gath yn ymarfer gyda’r band Y Pryfed Pren yn y Fatican, ond mae rhywbeth yn bod. Mae un o’r tiwtoriaid Cymraeg seicedelig a ddaeth drwy’r porth a agorodd Julian Pope yn ei gromlech yn dweud y drefn wrthyn nhw: maen nhw wedi colli rhywbeth. Maen nhw wedi colli Y GRŴF. Does dim…
1362: Y Pryfed Pren
Mae band newydd yn y Fatican. Y Pryfed Pren sydd wedi troi lan. Maen nhw’n dod o Faenclochog, ac maen nhw’n annioddefol. Ar ôl iddyn nhw gwrdd â Daf y gath, maen nhw’n trio ei pherswadio hi i ganu fel lleisydd cefndir. Ond ni fyddai hynny‘n ddigon i Daf. Mae hi am gymryd rôl y…
1360: Menter Krautrock
Mae Jeff y gath wedi bod yn arsylwi ar y cardinaliaid i wneud yn siŵr bydd Bryn Teribl ac Owain Glyndŵr yn cael eu postio adref o’r Fatican yn eu blychau cardbord. Yn y cyfamser, mae pethau gwallgof wedi bod yn llifo drwy’r porth y mae Julian Pope wedi ei agor rhwng ei gromlech yn…
1361: Krautrock yn y Fatican
Mae gŵyl krautrock Daf y gath yn syfrdanol o lwyddiannus. Mae awyr y Fatican yn atsain â grŵfs motorig. Mae Daf yn cael profiad seicedelig dwys trwy’r holl ddigwyddiad, wrth gwrs, wedi cymryd paced cyfan o Dreamies cyffuriol. Mae’r Pandas Pinc wrthi’n chwarae cân o’r enw “Gwyliwch fi, tractor ydw i”, a ddechreuodd cwpl o…
1359: Pab Julian
Felly, mae’r enwog Julian Pope yn eistedd ar yr orsedd pabaidd. Am syndod! Onid yw Julian Pope yn bagan? Ydy. Felly pam mae e wedi cydsynio i fod yn Bab? Achos ei fod yn bwriadu gwneud rhywbeth chwyldroadol. O diar. Gweithred cyntaf Julian Pope yw gorchymyn i’r cardinaliad roi’r enwog Bryn Teribl a’r ynfyd Owain…
1358: Het Babaidd
Mae’r enwog Bryn Teribl yn achosi trafferth. Mae e’n cael pwll o dymer ynghanol y Fatican achos ei fod am gael het fel het ei efell, yr ynfyd Owain Glyndŵr, sef y Pab newydd. Mae Jeff y gath yn gofyn y cwestiwn nad oes neb am wybod yr ateb iddo. — ‘Rhoswch am eiliad, ody…
