Mae Dewi Sant wedi rhoi ei siop lyfrau ar dân er mwyn hawlio’r arian yswiriant, cyn sylweddoli nad oes yswiriant gyda fe. Mae pawb yn syllu ar yr olion yn drist, ac eithrio’r enwog Owain Glyndŵr, sydd yn rhedeg o gwmpas yn esgus bod yn injan tân. Yna, mae Daf y gath yn sylwi ar…
Month: August 2023
693: Yn y fantol
Mae dyfodol siop lyfrau Dewi Sant yn y fantol. Nid yw’r siop yn gwneud dim elw, ac mae’r enwog Bryn Terfel a’i efell Owain Glyndŵr yn costio llawer i’w bwydo. Does dim dwywaith amdani. Bydd rhaid iddo fe losgi‘r siop yn ulw a hawlio’r arian yswiriant. Mae Daf y gath yn gwylio Dewi wrth iddo…
692: Clustiau
Mae Dewi Sant yn agor ei siop lyfrau a gweld blwch dirgel ar y palmant y tu allan iddi. – Beth yw hwn? meddylia. Mae e’n mynd â’r blwch i mewn i’r siop, a’i agor. Am arswyd! Blwch o glustiau yw e! Mae’n amhosib dweud p’un ai clustiau dynol ydyn nhw, neu rywbeth arall, gan…
691: Ymadawiad
Mae’r henoed J. R. Hartley am adael siop lyfrau Dewi Sant. Diolch byth. Dim ond codi helynt y mae e wedi bod. Ond beth sydd yn mynd i ddigwydd i’r holl gopïau sbâr o “Pysgota Plu”, tybed? Fel y mae Dewi Sant ar fin dweud wrth yr hen awdur trafferthus yn gadarn na chaiff e…
690: Awyrennau papur
Mae Dewi Sant yn deffro y tu ôl i’r cownter yn ei siop lyfrau a gweld mwy o lanast nag arfer. Tra bod Santes Dwynwen wedi bod yn ceisio gweithredu fel rhith-awdur i’r henoed J. R. Hartley, mae Owain Glyndŵr wedi bod wrthi eto. Mae e wedi bod yn rhwygo tudalennau allan o lyfrau amrywiol…
689: Pwnc amgen
Mae J. R. Hartley yn gwrthod gadael siop lyfrau Dewi Sant hyd nes bod rhywun yn cytuno i fod yn rhith-awdur ar gyfer ei lyfr newydd am lygredd afonydd. Mae Santes Dwynwen yn nôl teipiadur o rywle a’i daflu’n ddiseremoni ar y cownter. – Awn ni amdani, ‘te. Mae’r teipiadur yn swnllyd iawn, ac mae…
688: Owain Glyndŵr, awdur
Mae’r enwog Bryn Terfel yn teimlo’n well, gan fod J. R. Hartley wedi dod o hyd i rywun arall i’w foddro, sef ein ffrind y Tywysog Owain Glyndŵr. Mae J. R. Hartley eisiau rhith-awdur newydd i’w helpu gyda’i llyfr nesaf am lygredd afonydd, ac Owain Glyndŵr sydd yr ymgeisydd anymwybodol lwcus. Nid yw Owain Glyndŵr…
687: Clawstroffobia
Mae’r henoed J. R. Hartley yn achosi trafferth yn siop lyfrau Dewi Sant. Erbyn hyn, mae Dewi Sant wedi pasio mas, felly ni all e fod o unrhyw help o gwbl. Mae’r cathod yn gwylio wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Sylweddola J. R. Hartley fod ei hen elyn, yr enwog Bryn Terfel, yn ymguddio yn y…
686: Panig
Mae’r enwog Bryn Terfel wedi mynd i banig. Yn ei dagrau, mae e’n erfyn ar Dewi Sant i beidio agor y siop lyfrau heddiw. Mae e’n ofnus bydd J. R. Hartley yn troi lan. Mae e’n ofnus gwneith J. R. Hartley achosi ffrae eto. Ac yna, mae cloch drws y siop yn canu. Dyma fe,…
685: Pysgota plu
Yn siop lyfrau Dewi Sant, mae’r ffôn yn canu, ond mae Dewi Sant wedi yfed gormod i’w ateb. Ond pwy bynnag sy’n galw, maen nhw’n ddyfalbarhaus tu hwnt. Yn y pen draw, mae’r enwog Bryn Terfel yn ateb. Hen ddyn sydd ar ben arall y llinell. – Oes gynnoch chi gopi o “Pysgota Plu” gan…
