Ar ôl i Mistar Afal Hapul roi chwain i Jeff, fe ddechreuodd rhyfel rhyngddo fe a’r cathod. – Jeff, ma syniad da fi, sibrydodd Daf. – Beth am i fi chwydu drosto fe? – Ym, meddai Jeff. – Wel, bydde ‘ny’n ddwysâd go iawn, yn fydde? – Bydde. – O’r gore. Ond paid â chwydu…
Category: Mistar Afal Hapus
Crafu eto
Dyw Mistar Afal Hapus yn afal neis o gwbl, mewn gwirionedd. Y tu ôl i’w lygaid hapus a’i wên hapus, mae ‘na ddrygioni. Pan mae pawb yn ymddwyn yn garedig, mor hapus yw e. Ond fel arall, afal anfad yw e. Mae Daf y gath wedi rhoi chwain iddo fe. Nawr, ei dro ef yw…
Groovy
Mae Mistar Pysgodyn Groovy’n helpu Mistar Afal Hapus i fod yn fwy groovy. Mae hyn yn dasg eithriadol o anodd. – Rwyt ti mor sgwâr, meddai Mistar Pysgodyn Groovy. – Wyt ti eisiau trio tipyn bach o catnip? – Dw i ddim yn cymryd cyffuriau, ateba Mistar Afal Hapus. – Does dim angen achos fy…
Cynghrair
Mae dau degan y cathod yn siarad gyda’i gilydd. – HELO, meddai Mistar Afal Hapus, – DWI MOR HAPUS. – Helo, meddai Mistar Pysgodyn Groovy, – dwi mor groovy. – BRAF CWRDD Â TI, meddai Mistar Adal Hapus, â gwên lydan. – DWI MOR HAPUS. – Paid bod mor swnllyd. Ti’n niwsans, meddai Mistar Pysgodyn…
Mistar Afal Hapus
Mae’r staff wedi prynu ffrind newydd i Daf y gath a’i chwaer Jeff. Mistar Afal Hapus yw ei enw ef. Achos afal yw e. Ac mae e’n hapus. Tegan plwsh yw Mistar Afal Hapus. Mae e’n gwenu yn barhaol. Blinder yw Mistar Afal Hapus. Gelyn yw Mistar Afal Hapus. – DW I MOR HAPUS! meddai…
