Ma Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol sy bellach in arwen i Crymych Newydd, isie rhywbeth catshi i’w rhoid ar hetie’r Blaid. Ma fe ‘di bod in gwylo Donald Trump a meddwl dile fe Mwyhau Crymych Eto. Ond sani hi mor hawdd gweud “MCE”. Ond beth am Mwyhau Ein Crymych Eto? ‘Na fe. MECE. Bydd hwnna’n…
Month: February 2026
1332: Amhenderfynoldeb
Fel pob un ffasgydd bach, ma Harri Benwyn, penneth y Crymych Ffasgaidd Newydd, yn lico ymddangos in benderfynol tu hwnt. Er enghrefft. Dwê, nath e benderfynu byse fe’n cihoeddi newiddion bwysig am rywbeth neu’i gily. Trefnwyd cifarfod cihoeddus, a wê lot o ffýs. Heddi, ma fe di newid i feddwl a chanslo’r cifarfod, oherwydd wedd…
1331: Pwyllgore
Ma Harri Benwyn, i fasgydd uffernol, ‘di penderfynu bydd angen mwy o gifrifoldeb in i Crymych Fasgaidd Newydd. Beth ma hinny’n meddwl? Sneb in gwbod, ond ma un peth in sicr: wedd ir hen Grymych yn anhrefnus tu hwnt, a wedd na ddim digon o bwyllgore. Ma pob fasgydd bach in drichid mlan at ‘i…
1330: Owain yr arwr
Ma Jeff y gath yn chwilo am yr enwog Owain Glyndŵr; sneb ‘di weld e ers tro byd. — Ti ‘di clywed gan Owain? medd Jeff wrth Daf. — Wen i’n meddwl byse fe’n ymddangos fel rhech annymunol unweth i’r straeon ail-ddechre. — Nadw, medd Daf, — ond fe weles i un o’i sgidie’n rhywle….
1329: Enw Newydd Bryn
Beth mae Harri Benwyn a’i ffasgwyr ‘di neud gida’n hannwl ffrind Bryn Teribl? So Daf a Jeff ‘di weld e ers misoedd. Sdim caniatâd i neb gifeirio at bethe negyddol yn y Crymych Ffasgaidd Newydd dim mwy, felly ma fe ‘di gorfod newid ‘i enw. — Bryn Disglair fyddwch chi o hyn ymlaen, meddai Harri…
1328: Mynd lawr bang
Mae Harri Benwyn, y ffasgydd uffernol, in ymweld â’i orsaf fridio lle ma fe’n cadw’r annwl Santes Dwynwen. Ma fe isie gwbod pam nad yw gyd o’r seintie yn bridio eto. — Fi’n anrhywiol, bêsicli, medd Santes Dwynwen. — Am eironi, medd Harri Benwyn, cyn rhoid sioc iddi gida ffon drydan. Gida hinny, ma hi’n…
1327: Harri Benwyn
O diar, be sy ‘di digwydd fan hyn, ‘te? A pam fod yr awdur yn sgwennu in ‘i dafodieth e? Sai’mod. Ond ma pethe di gwaethygu yn y Crymych go iawn, dina sicrwydd. Ma staff nowi Daf a Jeff ‘di câl ‘u harestio a thowlu in i carchar oherwydd bo nw ‘di gweud rhywbeth anweddus…
