Pan gyrraeddodd Daf y gath yr ardd, gwelodd hi olygfa anghredadwy o ddieithr. Roedd Dewi Sant yn eistedd yn y troli siopa, gyda’i photeli o win a chwrw o’i gwmpas. Roedd yn gawr o ddyn, felly oedd y troli siopa’n anghyffyrddus iawn iddo. – Be’ ti neud fan’na? gofynnodd Daf, heb ddiddordeb, ar ôl iddi…
Category: Troli Siopa
Interliwd – Bacwn (Troli Siopa, rhan 7)
Cymrodd Daf y gath bach o amser i gyrraedd yr ardd ar ôl iddi cael ei harestio. Rhyfeddai at ba mor gryf oedd Jeff, er ei fychander. Gwaith caled oedd cario roced. Yn y cyfamser, roedd Jeff yn dadlau gyda’r staff. – Oes ‘na facwn? We fi’n disgwl bacwn rhywbryd. – Nag oes, Jeff, ‘ti…
Heddlu (Troli Siopa, rhan 6)
Roedd Daf y gath yn difaru dwyn sied Dewi Sant bron ar unwaith. Roedd hi wedi’i gyrru bant i Lundain gan obeithio anelu ei roced tuag at San Steffan, er mwyn dechrau ei ymgyrch i gymryd drosodd y byd i gyd. Fel yr oedd hi wedi dychmygu, roedd y cerbyd-adeilad yn gyflym iawn, ond sgrafangodd…
Perygl Baglu (Troli Siopa, rhan 5)
Roedd Daf y gath ar fin gyrru sied Dewi Sant bant pan agorodd y drws. Ymddangosodd Jeff rownd y gornel. – Daf, dw i ‘di câl syniad. – Dim syniad arall, griddfannodd Daf. – Be’ nawr? We fi ar fin gyrru bant ac wedyn anelu’r roced tuag at San Steffan i ddechrau’n ymgyrch i gymryd…
Panel (Troli Siopa, rhan 4)
Cerddodd Daf y gath o gwmpas Dewi Sant. Roedd angen panel o’r sied er mwyn creu arfedigaeth ar gyfer ei throli siopa. Heb arfedigaeth, basai’n amhosib iddi gymryd drosodd y byd i gyd, a basai hi wedi methu ei adduned Blwyddyn Newydd. Dewisodd panel neis iawn, yn agos at y drws. Ond, heb rybudd, ymddangosodd…
Arfedigaeth (Troli Siopa, rhan 3)
Yn gyfrinachol, roedd Daf y gath yn falch iawn gyda’i thegan newydd. Byddai’r roced a ddod Jeff â hi yn help mawr i gymryd drosodd y byd i gyd. Y peth nesaf yr oedd angen ei wneud oedd creu arfedigaeth ar gyfer y troli siopa. Edrychodd Daf o gwmpas yr ardd. Doedd dim byd addas….
Roced (Troli Siopa, rhan 2)
Y bore canlynol, tra oedd Dewi Sant yn arwain oedfa tu fewn i’w sied gyda’r Frenhines Branwen, edrychodd Daf y gath lan o’i thraed a gweld ei ffrind Jeff yn cario roced fawr yn ei cheg. – Tamed bach o anrheg i ti yw honna, meddai Jeff. – We fi am ddweud sori am dy…
Troli siopa
Un tro, ymddangosodd troli siopa yn yr ardd. Un newydd, sgleiniog oedd e, â llwnc bach ar ei ddolen ar gyfer darnau punt. Roedd Santes Dwynwen eisioes wedi dechrau’i llenwi â photiau o gwstard cariad, a rhedai Draig y ci o’i gwmpas yn frwdfrydig. Cyrraeddodd Jeff y gath galico, ar ôl taith “busnes” a gweld…
