Mae’r gweithredwr sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant am drefnu diwrnod adeiladu tîm. Mae e eisiau i bawb gymryd rhan. Bydd gweithgareddau hollol abswrd, ynghyd â hwyl orfodol. Bydd bondio, hyd yn oed. O diar. Ond mae gan yr enwog Julian Cope syniadau eraill. Mae e’n rhoi Dreamies cyffuriol Daf y gath i’r gweithredwr a’i…
Month: January 2024
840: Cyfarfod
Mae gweithredwr yn aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae’r gweithredwr wedi trefnu cyfarfod. Mae pawb yn eistedd o gwmpas bwrdd yn y gwesty, yn aros i’r cyfarfod ddechrau. – Oes agenda? gofyn Daf y gath. – Nac oes, meddai’r gweithredwr. – Oes pwnc trafod? – Nac oes. – Felly pam y’n ni’n ca’l cyfarfod o…
839: Gweithredwr
Mae gweithredwr wedi cyrraedd gwesty Dewi Sant. Mae’r gweithredwr yn gwisgo siwt smart a chario cas lledr. – Dyma’r math o westeion ni angen, meddai Dewi Sant. Ond dyw pawb ddim yn cytuno. – Beth ti neud yn gwmws? gofyn Daf y gath i’r gweithredwr. Hanner awr yn ddiweddarach, mae’r gweithredwr wedi defnyddio llawer o…
838: Hedfan
Beth sy’n hedfan trwy’r awyr draw fan acw? Mae’n edrych yn drawiadol tu hwnt. Mae fflamau yn dod allan ohono fe. Tân gwyllt yw e? Nac ydy. Ffwrnais chwyth yw e. Roedd Daf y gath wedi cael hen ddigon o ddeuawdau rhwng yr enwog Bryn Teribl a’r cerddor metel, felly gofynnodd hi i’r Hen Dduw…
837: Adlais
Mae’r enwog Bryn Teribl yn canu caneuon operatig. Mae e’n esgus ei fod e ar lwyfan mewn tŷ opera crand. Mewn gwirionedd, ar waelodd yr ardd mae e. Yn sydyn, mae e’n sylwi ar adlais. Bob tro mae e’n canu llinell, mae e’n clywed yr adlais yn dod yn ôl ato fe. Am ryfedd! Ond…
836: Priodas
Mae’r cerddor metel sydd yn aros yng ngwesty Dewi Sant am briodi Daf y gath. Am annisgwyl. Nid yw Daf yn awyddus. Ond mae’r cerddor yn parhau i brynu blodau iddi, ynghyd â siocledi a phob math o bethau sy’ ddim o ddiddordeb iddi o gwbl. – Y cerddor yw’r gwestai mwya trafferthus ni ‘riôd…
835: Cariad
Dydd Santes Dwynwen yw heddiw, felly mae Dewi Sant wedi cynhyrchu cwstard arbennig ar ei chyfer hi. Mae pawb yn siarad am gariad. Pawb, hynny yw, ond yr enwog Julian Cope. Mae e’n dal i siarad am gylchoedd cerrig cyn-hanesyddol. Yn sydyn, mae Daf y gath yn teimlo rhywun y tu ôl iddo. Yna, mae…
834: Tywydd ansefydlog
Erbyn hyn, mae’r cerddor wedi gwacáu’r pwll nofio yn y sba trwy achosi ton llanw gyda’i mwyaduron. Ond nawr, mae rhywbeth arall yn digwydd. Mae gwynt cryf yn chwythu. O diar. Mae holl sŵn y cerddor wedi ansefydlogi’r tywydd! Mae Daf y gath yn gwylio biniau’r gwesty’n hedfan trwy’r awyr. Saesneg / English Unsettled weather…
833: Siglo
Mae’r gwesty’n siglo. Ddoe, cyrhaeddodd cerddor metel gyda llond lori o fwyaduron. Heddiw, mae e’n rhoi prawf arnyn nhw fesul un. Mae e wedi plygio ei gitâr i mewn a chwarae cord. Mae’r cord yn achosi ton lanw yn y sba. Mae’r enwog Julian Cope yn meddwl bod hynny’n gosmig. Ar y llaw arall, mae…
832: Cerddor
Mae cerddor wedi cyrraedd gwesty Dewi Sant. Mae Dewi Sant yn nerfus iawn rhag ofn i’r enwog Bryn Teribl achosi trafferth. Fel arfer, ni fydd yr enwog Bryn Teribl yn gadael llonydd i neb sy’n chwarae offeryn cerddorol. Bydd e’n dod yn or-frwdfrydig a mynnu perfformio pob dim o’i repertoire. Ond y tro ‘ma, fydd…
