Tawel oedd popeth yn yr ardd. Roedd Dewi Sant yn chwyrnu yn ei babell newydd, a oedd e wedi gwneud o hen ddillad Santes Dwynwen. Roedd hi’n hollol noeth, yn cysgu’n sownd ar y glaswellt ar ei ochr, ac yn breudwyddio am lyn anferth o gwstard. Roedd Daf y gath a’i ffrind Jeff yn darhuno’n…
Month: August 2021
Menter Newydd
Gan ei fod yn fachden da, roedd Draig y ci’n gwylio Daf y gath, wrth iddo gychwyn ei fenter newydd, yn swalpio ei gynffon. Roedd Daf wedi gwneud blif o weddillion sied Dewi Sant, ac roedd e’n esbonio sut byddai fe’n gweithio i Jeff. Nid oedd argraff mor dda arni. – Menter newydd yw hwn,…
Fan Newydd Daf – rhan 3
Roedd Jeff y gath yn yrrwr arswydus o ddrwg. Doedd hi erioed wedi gyrru sied o’r blaen, ac roedd y sied hon yn un gyflym iawn. – Ti’n beryglus, t’mod, meddai Daf, wrth iddi daro’r ddau flwch post y pentre (un ar gyfer pobl llawchwith, un ar gyfer pobl llawdde). Trodd Jeff y gornel. Taflodd…
Fan Newydd Daf – rhan 2
Ar ôl i Jeff y gath awgrymu dwyn sied Dewi Sant er mwyn i Daf gael cerbyd am wneud ei ddosbarthiadau, dechreuodd y cathod gynllunio. Roedd angen iddynt aros tan yr oedd Dewi’n fflyrtan gyda Santes Dwynwen, neu’n ysmygu ger y gwely rhosod. Yn anffodus, roedd gan Dewi Sant syniadau eraill heddiw. Un am yfed…
Daf a Jeff yn mynd am gyri
Un noson, roedd Jeff y gath galico’n lwgu, fel arfer. – Ble mae’r staff? bloediodd Jeff. – Ti isie mynd am gyri? gofynnodd Daf y gath, ar ôl iddo orffen ymolchi ei hunan. – Wnei di yrru? meddai Jeff. – Na i, atebiodd Daf, wrth iddo ddwyn sgwter Santes Dwynwen (achos yr oedd ei fan…
Fan Newydd Daf – rhan 1
Un diwrnod, roedd yr ardd yn dawel. Roedd Draig y ci yn bod yn fachgen da, ac roedd y madarchen ar ben Jeff yn cysgu’n sownd. Achos bod y Frenhines Branwen wedi dinistrio fan Daf y gath, penderfynodd e chwilio am un arall. – Nes i weud wrthot ti, meddai Jeff, ei ffrind calico, –…
Het Jeff – rhan 5
– Rhan ola o’r stori yw hwn, meddai Daf y gath. – Well i ni neud rhywbeth nodedig. – Fi’n gwbod, atebiodd Jeff y gath, ond dw i ‘di cael fy nhroi ‘nôl mewn gath yn barod gan y ffrwydrad. – Am gyfleus. – Felly, sdim byd i’w neud. – Na, sdim byd i’w neud….
Het Jeff – rhan 4
Mae Jeff y gath wedi cael ei throi mewn het. Mae Jeff yn hoffi bod yn het. Mae hi’n gallu casglu pob math o bethau. Dydy hi ddim eisiau bod yn gath eto. Ond, mae bod yn het yn llai hyblyg. Ac mae hi’n hoffi bwyd. Mae Jeff yn siarad gyda’r hanner-siarc. “Wyt ti’n hoffi…
Het Jeff – rhan 3
Ar ôl i Jeff gael ei droi yn het fowliwr, aeth Daf y gath i weld Dewi Sant, a oedd yn smygu y tu allan i’w sied. – Allet ti’n helpu fi droi Jeff nôl mewn gath? Pendronodd y Sant am eiliad. – Galla i. Gweiddiwn. – On’d y’ch chi’n meddwl “Gweddiwn”? gofynnodd Daf. –…
Het Jeff – rhan 2
Daeth Jeff y gath yn ôl o’r siopau gyda newyddion drwg i Daf. – Doedd dim crwbanod neu hwyaid ‘da nhw, ond nes i brynu hwnna i ti. Hanner siarc oedd e. Gwgodd Daf. – Sai’n gallu jyglo â hwnna ar ei ben ei hun, meddai. – Sai isie câl fy jyglo, yn enwedig, meddai’r…
