Bwystfil yw Mr. Hiliol, perchennog y ffatri siocled. Mae Jeff y gath eisoes wedi rhyddhau’r rhan fwyaf o staff y ffatri a oedd yn gaethweision. Defnyddiodd tyrnsgriw a help hudolus yr Archfadarch. Mae Mr. Hiliol ar fin rhoi Dewi Sant yn ei beiriant torri seintiau gan fod Dewi Sant wedi pasio mas eto, ond yn…
Month: February 2023
500: Daf a’r ffatri siocled, rhan 3
Mae Daf y gath a’i ffrindiau ar daith o gwmpas y ffatri siocled leol. Maen nhw wedi colli’r chwarter-siarc yn barod. – Dyma ystafell arbennig iawn, meddai Mr. Hiliol, y perchennog. – Dyma deledu siocled. Mae Daf yn edrych ar y set teledu, sydd yn dangos llun o Dreamies siocled. Mae hi’n amheus iawn. Mae…
499: Daf a’r Ffatri Siocled, rhan 2
Mae Daf a phawb arall yn cyrraedd eu ffatri siocled leol, wedi taith anghyffyrddus ar gefn ei thractor a’i drelar. Mae’r ffatri siocled yn cael ei rhedeg gan yr awdur enwog Mr. Hiliol, sydd yn cam-drin ei staff yn ofnadwy. – Helo, meddai Mr. Hiliol. – Hoffwn i arddangos fy ffatri siocled i chi. –…
498: Daf a’r Ffatri Siocled, rhan 1
Mae Daf y gath yn dod o hyd i rywbeth disglair ar y llawr. Tocyn yw e. – Llongyfarchiadau, meddai’r tocyn. O’n i heb sylweddoli y gall tocynnau siarad, meddylia Daf. – ‘Dych chi wedi ennill gwobr ryfeddol! – Dreamies, ife? gofyn Daf. – Nage, meddai’r tocyn. Ymweliad â’ch Ffatri Siocled leol. Bydd llawer o…
497: Damwain
Mae Margaret ferch Owain wedi cael damwain wrth yrru fan Daf y gath. Roedd hi’n aros ar gylchfan, a gyrrodd rhywun i mewn i gefn fan Daf ar gyflymder annisgwyl. Defnyddiodd ei thentaclau i atal unrhyw anafiadau, ond mae hi’n dal i fod mewn sioc. Chafodd neb arall ei anafu, ond mae’r fan wedi’i ddileu….
496: Nôl
Mae’r Esgob wedi dychwelyd i’r ardd i nôl ei het bigfain ysblennydd. Ond mae’n rhy hwyr. Beth sy’ wedi digwydd i’r het? Mae Margaret ferch Owen wedi dwyn yr het oddi ar ben yr enwog Bryn Terfel wrth iddo fe gysgu. Roedd hi’n hoff iawn o’r defnydd. Wedi ychydig o fanion gwnïo cyffredinol, mae hi…
495: Wheelies
Mae fan Daf y gath ar goll. Pwy sydd wedi dwyn fan Daf? Pwy arall sydd ar goll? Mae’n amlwg bod Dewi Sant yn dal i fod yn yr ardd, gan fod ei sied yn drewi o hen ffags a chwrw. Mae hefyd yn amlwg bod Santes Dwynwen yn dal i fod yn yr ardd…
494: Cystadlu
Fel ‘dyn ni’n gwybod, mae’r chwarter-siarc yn hoff iawn o jyglo, ac mae e’n un da iawn amdani hefyd. Ond dyma Margaret ferch Owain sydd yn newid ei gwisg. Mae hi’n gwisgo crop-top amdani, er mwyn rhyddhau ei thentaclau. Pam? Mae Margaret ferch Owain hefyd yn hoff iawn o jyglo. Sawl tentacl sydd gyda hi?…
493: Geneteg
Mae Eifion yr octopws mor hapus fod ei fam-gu Margaret ferch Owain wedi dod i’r ardd. Mae e heb ei gweld hi ers achau. Sut all bod dynol fod yn fam-gu i octopws? Does neb yn gwybod. Ond wrth edrych yn fanylach, mae’r tebygrwydd yn amlwg, yn enwedig wrth ystyried tentaclau Margaret, sydd yn gwingo…
492: Hedd
Diwrnod heddychlon yw e, am unwaith. Mae pawb yn yr ardd yn cysgu’n drwm, heblaw am y Frenhines Branwen, sydd yn dinistrio rhywbeth yn dawel mewn cornel. Mae Daf y gath yn gysglyd iawn. Mae hi newydd ddychwelyd o ddimensiwn arall lle mae hi wedi cwrdd â ffrind hanesyddol newydd, sef Margaret ferch Owain. Mae…
