1359: Pab Julian

Felly, mae’r enwog Julian Pope yn eistedd ar yr orsedd pabaidd.

Am syndod!

Onid yw Julian Pope yn bagan?

Ydy.

Felly pam mae e wedi cydsynio i fod yn Bab?

Achos ei fod yn bwriadu gwneud rhywbeth chwyldroadol.

O diar.

Gweithred cyntaf Julian Pope yw gorchymyn i’r cardinaliad roi’r enwog Bryn Teribl a’r ynfyd Owain Glyndwr mewn blwch cardbord yr un a’u postio adref.

Ail weithred Julian Pope yw agor porth seicedelig yn y gromlech a adeiladodd ynghanol y Fatican, sy’n cysylltu’r Fatican â’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.

Mawredd.

Fydd Pandas Pinc?

Bydd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.