1362: Y Pryfed Pren

Mae Jeff y gath eisoes ar y llwyfan.

Mae band newydd yn y Fatican. Y Pryfed Pren sydd wedi troi lan. Maen nhw’n dod o Faenclochog, ac maen nhw’n annioddefol.

Ar ôl iddyn nhw gwrdd â Daf y gath, maen nhw’n trio ei pherswadio hi i ganu fel lleisydd cefndir.

Ond ni fyddai hynny‘n ddigon i Daf. Mae hi am gymryd rôl y prif leisydd.

O diar.

Mae hi’n honni bod ganddi ormod o steil i fod yn y cefndir. Â bod yn deg, mae hi yn gwisgo het ysblennydd.

Tra bod Daf yn trafod telerau ac amodau â’r Chwilod, mae Jeff y gath eisoes ar y llwyfan gyda’r Pandas Pinc. Maen nhw newydd gychwyn odyseia roc-ofod jazz-ffyncaidd sy’n ei gwneud hi’n anodd i Daf a’r Chwilod ganolbwyntio.

Ac yna, mae Daf yn cael syniad.

— Beth am i ni awgrymu ffurfio sŵpergrŵp? medd Daf wrth Ifor, arweinydd cerddorol y Pryfed Pren. — Allen ni gymryd drosodd cam wrth gam.

— Syniad da, medd Ifor. — Wen i’n ffan mawr o Swapshop yn yr wythdegau.

Sŵpergrŵp, nid Swapshop.

— Dyna drueni, medd Ifor, — wen i’n gobitho swopo ‘ngitâr fas am un well.

— Bryn Teribl fydd ein harf mwya peryglus, medd Daf.

— On’d yw e’n aelod o’r Pandas Pinc?

— Dim cweit.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.