Mae Sant Padrig wedi bod yn garedig iawn. Mae e wedi postio paced o falltod, gyda chyfarwyddiadau, at Dewi Sant er mwyn cael gwared ar y tatws, yn enwedig y cyn-Brifdaten. Mae Dewi Sant yn gwasgaru’r malltod dros wely’r tatws ac aros. Cyn bo hir, mae tawelwch. Cyn bo hir, does dim anrhefn bellach. Cyn…
Category: Ailymddangos
Ailymddangosiad, rhan 3
Dyw cynllun Daf y gath ddim wedi gweithio. Roedd hi’n bwriadu boddi’r tatws i gyd – yn gynnwys y cyn-Brifdaten – yng nghwstard Santes Dwynwen, ond roedd y tatws wrthi’n cynnal derbynfa diodydd rywle arall. – Fe wna i ffonio Sant Padrig, meddai Dewi Sant. – Bydd e’n gwybod beth i’w wneud. Mae Dewi Sant…
Ailymddangosiad, rhan 2
Mae’r cyn-Brifdaten wedi ailymddangos. Mae popeth ar dân, ac yn y blaen. Mae Dewi Sant wedi dechrau gweddïo, hyd yn oed. Ond mae Daf y gath yn mynd i stopio’r tatws a’u hanrhefn. Mae hi’n neidio i’w fan a gyrru’n gyflym iawn at iard yr adeiladwyr, lle mae hi’n prynu llwyth o frisblociau. Yna, mae…
Ailymddangosiad, rhan 1
Mae’r cyn-Prifdaten wedi ailymddangos. On’d oedd e wedi ei stwnsio? Efallai. Efallai dim. Erbyn hyn, mae e’n meddwl taw fe sydd yr ymgeisydd a all achub y byd. Ond mewn gwirionedd, mae e’n daten digywilydd, gwacsaw. Rhech mewn pot jam. Bag bin o gwstard. Ac yn y blaen. Ond mae’n debyg nad oes pŵer gan…
