Daeth eos i mewn i’r ardd un tro. Roedd llais hyfryd gyda hi, a chanodd drwy’r dydd a thrwy’r nos. – Dwi’n mynd i ladd hi, meddai Jeff y gath. – Sai’n cal winc o gwsg fan hyn. – Paid, atebodd Daf. – Pam lai? Bydde hi’n mynd yn dda gyda thamed bach o facwn….
Month: February 2022
Cwympo oddi ar y wagen
Un tro, roedd Dewi Sant yn llusgo wagen y tu ôl i’r sied wrth i bawb deithio i’r arfordir am ddiwrnod bant. Nid oedd digon o le y tu mewn i’r sied ei hun, felly roedd y cathod yn cadw cydbwysydd ar y tô, a phawb arall yn eistedd yng nghefn y wagen. Cyn bo…
Cacha yn dy wely, llong ryfel Rwsiaidd
Un tro, roedd Daf y gath yn pendroni. Nid oedd eisiau arni fod yn ddychanol am y byd go iawn. Roedd digwyddiadau’n rhy drist am hynny, ac yr oedd hyd yn oed y Prifdaten yn dawel am unwaith. Felly beth i’w wneud? Fe ddechreuodd hi gasglu ffyn, a chreu llythrennau gan eu rhoi nhw ar…
Dychwelyd y Prifdaten
Un tro, wrth i Daf y gath fusnesa o gwmpas blwch cardbord arall, daeth sŵn ofnadwy o gyfeiriad sied Dewi Sant. Rhedodd Dewi allan o’i sied yn sgrechian. – Be sy’n bod arnat ti? gofynnodd Daf. – Ma fe’n dod nôl, meddai Dewi Sant. – Pwy? Yr Esgob? gofynnodd Daf, yn disgwyl pennod arall o…
Cyfeddiant
Un tro, roedd Daf yn sefyll o flaen powlen llawn Jeff, yn ei rhywstro rhag ei gyrraedd. – Daf, be ti neud? Dwisie byta’n seithfed brecwast. – Cyfeddiant, meddai Daf. – Mae dy bowlen yn wlad annibynnol bellach. Dwi’n mynd i’w amddiffyn gyda ‘mwced. – DYNA FY MOWLEN A DWISIE BYTA, ebychodd Jeff. – Paid…
Y Gacen Gyflyma yn y Byd
Un tro, roedd y cathod yn pendroni am bethau. – Daf, beth yw’r gacen gyflyma yn y byd? gofynnodd Jeff yn sydyn. – Mae’n dibynnu ar beth mae hi’n gyrru, atebodd Daf. Ar yr eiliad honno, sgrialodd sgon heibio mewn roced. – ‘Na ti, meddai Daf.
Gwely
– Daf, dere fan hyn, glou! ebychodd Jeff un tro. – Be sy? meddai Daf. – Dwi’n brysur. Doedd hi ddim yn brysur o gwbl. – Mae’r staff ‘di dod nôl, meddai Jeff. – A ti mod beth ma ‘ny’n golygu. Stopiodd Daf beth bynnag oedd hi’n esgus gwneud. – GWELY, gweiddiodd, wrth i’r ddwy…
Pimp
Un tro, roedd Daf yn gwisgo siaced leder a sbectol haul, ys smygu ffag ger y bin. – Daf, gofynnodd Jeff, – Pam ti ‘di gwisgo fel na? – Pimp dw i, meddai Daf. – Menter newydd yw e. – Nag wyt. Sdim ond un ohonot ti. – Pimp. Puteinfeistr. – Puteinfeistr? Wes puteiniaid da…
Gwynt
– Mae’n gwyntog heddi yndife? meddai Daf y gath wrth i do sied Dewi Sant ddiflannu i’r storm. Roedd yn amhosib i’r hanner-siarc jyglo yn y gwynt, hyd yn oed â phethau trwm. – Ody wir, atebodd Jeff. – Draig y ci sy ar fai. Ma’r staff di rhoi tabledi mwydod iddo fe. Mae fe’n…
Yr Ail Rhyfel Cwstardleuol
Un tro, ar ôl i Keith y gowrd ddinistrio’r Prifdaten a’i fyddin, roedd y madarch yn gorymdeithio o gwmpas yr ardd. Jyglai’r hanner-siarc â grenadau, ac roedd Santes Dwynwen wrthi’n paratoi coctêls Molotof o gwstard ffrwydrol sbesial. Roedd yn amlwg bod rhywbeth ar fin digwydd. Ac yna, digwyddodd. Gyrrodd Daf y gath i mewn i’r…
