Mae’r grŵp Y Pandas Pinc yn dal i fod ar daith, gyda Robat Smith fel eu prif leisydd nhw. Mae Robat Smith wedi derbyn galwad ffôn arall gan yr Esgob. Mae’r Esgob yn cyhuddo Robat Smith o wylio pornograffi. O diar. Mae’r Esgob wedi ei ddrysu. Fel mae pawb — ac eithrio Daf y gath…
Month: September 2024
1076: Ffydd
Mae Robat Smith a’r Pandas Pinc wedi cael galwad ffôn gan yr Esgob. O diar. Dyna oedd Daf y gath yn ei ddisgwyl. Does neb yn hoffi derbyn galwad ffôn gan yr Esgob. Mae’r Esgob am brofi ffydd Robat Smith. Mae e’n poeni ei fod yn troi at yr ochr dywyll oherwydd ei gân grindcore…
1075: Dwy eiliad ar bymtheg
Mae’r Pandas Pinc wedi chwarae gig arall gyda Robat Smith fel prif leisydd, a’r tri bachgen dychmygol (sef yr hwfar, yr oergell a’r lamp sefyll) yn chwarae syntheseisyddion. Heno, bydd pethau yn wahanol. Mae Robat Smith wedi cyfansoddi cân sy’n ddwy eiliad ar bymtheg o hyd. Am syndod! Mae Robat Smith a’r Pandas Pinc yn…
1074: Tri bachgen dychmygol
Mae Robat Smith yn mwynhau chwarae gigs gyda’r Pandas Pinc yn fawr iawn, yn lle canolbwyntio ar record newydd ei grŵp ei hun. Ynghyd â newid caneuon y Pandas Pinc, mae e wedi ychwanegu sawl aelod newydd i’r grŵp. “Y tri bachgen dychmygol”, mae e’n eu galw nhw. Mewn gwirionedd, dim ond hwfar, oergell a…
1073: Iselder
Neithiwr, perfformiodd Robat Smith fel prif leisydd y Pandas Pinc am y tro cyntaf. Roedd y cyngerdd yn llwyddiannus dros ben. Mae pawb yn hapus. Ond. Mae Robat Smith wedi bod yn newid y caneuon. Erbyn hyn, maen nhw i gyd yn wyth munud o hyd o leiaf, ac yn lle sôn am lawenydd seicedelig,…
1072: Robat
Mae dyfodol taith y Pandas Pinc yn dechrau edrych yn ansicr. Maen nhw wedi cael gwared â sawl prif leisydd, yn gynnwys yr anhrefnus Saunders Lewis, Santes Dwynwen, a phrif leisydd y Pandas Oren, sef Stîf. Mae Daf y gath yn gwneud galwad ffôn arall. Cyn hir, mae cnoc ar ddrws y bws teithio. Dyma…
1071: Stîf
Mae Stîf, o’r grŵp y Pandas Oren, yn mynd i ganu gyda’r Pandas Pinc heno, diolch i Daf y gath a’i galwad ffôn. Nid yw’r Pandas Pinc yn hapus o gwbl. Gelynion y Pandas Pinc yw’r Pandas Oren. Mae Stîf yn or-ddramatig, ac mae e’n gor-ganu popeth. Byddai’n well gyda’r Pandas Pinc gael Saunders Lewis…
1070: Y Pandas Oren
Mae trafferthion taith y Pandas Pinc yn parhau. Does dim prif leisydd ar hyn o bryd. Mae Daf y gath wedi ffonio gelynion y Pandas Pinc, sef y Pandas Oren. Dyma ddau ohonyn nhw sy’n dod i gnocio ar ddrws y bws teithio. — Stîf ydw i, medd Stîf. — A dyma Larri. Larri Parri….
1069: Caergrawnt
Mae taith y Pandas Pinc wedi cyrraedd Caergrawnt. Oes llawer o’u ffans nhw yng Nghaergrawnt? Nac oes. Mae Santes Dwynwen wedi bod yn ymarfer. Hi fydd y prif leisydd heno. Ond mae hi wedi gwneud camgymeriad. Yn lle dysgu caneuon y Pandas Pinc, mae hi wedi dysgu caneuon gelynion y Pandas Pinc, sef y Pandas…
1068: Galwadau ffôn
Mae Daf y gath yn gwneud galwad ffôn. Mae’n bwysig iawn iddi gael gwared â Saunders Lewis a dod o hyd i rywun arall sy’n gallu perfformio fel prif leisydd y Pandas Pinc. Mae hi’n ffonio Dewi Sant. Mae Dewi Sant wedi mynd ar daith o’r blaen. Ond dydy mynd ar daith eto o ddiddordeb…
