Chwibanodd yr Archfadarchen, a daeth sawl madarchen arall mas o’r ddaear. Roedd pennau coch gyda nhw, ac roedden nhw i gyd yn cario offer dirgel wrth iddyn nhw canu cân am gwstard. – Dan nhw wedi bod yn gwrando arnon ni? gofynnodd Jeff. – Nac ydyn, mae obsesiwn mawr â chwstard gyda nhw ‘fyd. –…
Category: Daf a’r Ddraig
Daf a’r Ddraig – rhan 5
Rholiodd Daf sigarèt catnip a chaeth brofiad seicedelig tra bod Jeff yn mynd i siarad â’r madarch. Crafodd hi ar y ddaear drosodd a throsodd. Ymddangosodd arweinydd y madarch a oedd golwg dan straen arno. Efallai’r oedd e wrthi’n gwneud rhywbeth pwysig iawn. – Beth ar y ddaear yw eich meddwl? meddai’r madarchen, wrth wgu….
Daf a’r Ddraig – rhan 4
– Beth sydd i fyta am bwdin? meddai Jeff, ar ôl iddi hwfro ei bwyd i lan oddi ar y llawr. – Mae chwant pwdin arna i. – Ti’n jôcan? meddai Daf. – Nac ydw. Dw i’n llwgu. – Fi’n ffaelu dy gredu di weithiau. Sdim byd i gael. A beth bynnag, mae’r staff wedi…
Daf a’r Ddraig – rhan 3
Daeth Jeff o dan gât yr ardd, gyda bach o ymdrech. Cath calico oedd hi, yr oedd tamaid bach yn dew. Wel, dim yn dew yn union. “Esgyrn mawr” oedd gyda hi. – Ble mae’r staff? meddai Jeff, yn anywybyddu’r lwmp mawr o ddraig a oedd o’i blaen hi. – Sai ‘mod, atebai Daf y…
Daf a’r Ddraig – rhan 2
Wedi cwblhau ei olchiadau, aeth Daf y gath am dro o gwmpas y ddraig, a oedd nawr yn cysgu’n sownd. Golchiadwr araf iawn oedd Daf. Wel, roedd rhaid iddo fe gadw ei draed e’n daclus, ac roedd hi’n bleser pur iddo fe gnoi ei grafangau ef. Sylweddolodd bod ‘na cylch mawr o lawnt wedi’i losgi,…
Daf a’r Ddraig – rhan 1
Un diwrnod, roedd Daf y gath yn eistedd yng ngardd ei staff e, yn ymolchi. Roedd yr adar yn canu, a’r madarch yn malu cachu ymysg eu gilydd yn y glaswellt. Yn sydyn, clywodd sŵn uchel, a ffrwydrodd rhywbeth gerllaw – Do’n i ddim yn disgwyl hynny, meddyliodd, cyn dychwelyd at ymolchi ei draed. Panigodd…
