Mae Draig y ci wedi bod yn teilsio. Achos bod Sant Teils yn nawddsant tyllau plwg, dyw e ddim yn llawer o help. Yn anffodus, un anobeithiol am deilsio yw Draig. Mae e’n rhy gyffrous, ac erbyn hyn mae darnau o deils ym mhobman. – Gardd yw hon, nid stafell ‘molchi, meddai Daf y gath…
Month: May 2022
Sant Teils
Mae Sant Teils wedi dod i’r ardd gyda Draig y ci a Mistar Pysgodyn Groovy. Mae Draig wedi dewis teils neis, ond does neb yn gwybod pam. – Nawddsant teils wyt ti, ‘te? gofynna Jeff y gath i Sant Teils. – Nadw, nawddsant tyllau plwg ydw i. Santes Bondoeau ydy nawddsant teils. – Mae hyn…
Pererindod, rhan 4
Cyrhaeddodd y pererinion y siop DIY. Roedd eu pererindod bron ar ben. – Gwyrth yw e, gwyrth yw e mae ‘na deils teils teils dwi isie teils, meddai Draig y ci. – Gwyrth? Mae jyst digon o stoc ‘da nhw, ymatebodd Mistar Pysgodyn Groovy. – Na, gwyrth yw e gwyrth yw e. – Pwy nath…
Pererindod, rhan 3
Gadawodd y pererinion. Yn syth, fe ddaethant o hyd i rwystr. – Helo, meddai’r rhwystr. – Helo, meddai Draig y ci. – Bachgen da dw i dwi’n mynd ar bererindod ar bererindod i brynu teils. – On’d yw pererindodau i fod yn fwy ysbrydol na hynny? gofynnodd y rhwystr. – Ydyn, meddai Mistar Pysgodyn Groovy….
Pererindod, rhan 2
Ar ôl pacio sach cefn â phethau hanfodol fel het, menig, dillad glaw a map, sylweddolodd Mistar Pysgodyn Groovy nad oedd modd iddo wisgo sach cefn, het, menig na dillad glaw. Ac nid oedd ganddo ddwylo, felly ni fyddai map yn lot o help. Doedd e ddim yn hollol sicr sut yr oedd e wedi…
Pererindod, rhan 1
Un tro, roedd Mistar Pysgodyn Groovy wedi penderfynu mynd ar bererindod. – Wyt ti’n grefyddol, ‘te? gofynnodd Jeff y gath, a oedd yn llowcio ei seithfed brecwast. – Nadw, dwi jyst isie neud rhywbeth cyffrous, atebodd Mistar Pysgodyn Groovy. – Mae popeth mor ddiflas a disynnwyr fan hyn. Ac mae gormod o fflwff Daf ym…
Trydydd Llythyr Dewi Sant at y Corinthiaid
Annwyl Corinthiaid, Yr ydwyf yn ysgrifennu atoch i ofyn ichi am gymorth. Mae’r esgob yn bygwth fy ysgymuno, achos fy mod yn “anobeithiol”, yn ei ôl ef. Cwyno am y ffags yw ef, yn ôl y drefn arferol. Ond hoffwn gadw fy swydd fel sant rhag ofn imi golli fy sied hefyd. Gewch siarad ag…
Blodau hapus
Mae blodau hapus yn yr ardd. Mae’r blodau hapus yn felyn ac yn goch. Mae’r tatws yn grac achos bod y blodau hapus wedi cymryd drosodd eu tiriogaeth nhw, a bod y blodau’n fwy poblogaidd na nhw. Achos eu bod nhw’n hapus. Mae Mistar Afal Hapus yn casáu’r blodau hapus achos ei fod e’n casáu…
Y selsigen ddrewllyd
Mae selsigen hudolus Franz Kafka mor lawn o wynt bod hi’n hollol rownd erbyn hyn. Fel balŵn. Mae Daf y gath yn dal i fod yn rhechu rhywle o dan lwyn oherwydd caws anfad Santes Dwynwen, felly mae rhaid i Dewi Sant achub y dydd. – Gweddïwn, meddai. – Paid â bod yn wirion, meddai…
Cawswynt
Mae rhywbeth yn bod ar Daf y gath. Ar ôl bwyta maint enfawr o gaws cwstard Santes Dwynwen, mae bola tost arni hi. Mae Daf yn rhechu yn barhaol. Nid rhechion capel ydyn nhw, ond rhai clec. Mae hi’n drewi. – Rhaid i ni gael gwared ar y caws i gyd, meddai Jeff. Mae’n anfad….
