Mae Santes Dwynwen wedi bod yn pysgota yn ei chwch gwyrdd pysen del. Daliodd hi gath sinsir arall. Nawr, mae Daf wedi dechrau bwlio’r gath newydd yn ddidrugaredd. Mae hi’n ei hel e o gwmpas y cwch cyn ei grafu e a’i wthio i’r môr gan obeithio bydd e’n boddi. Mae e’n boddi. Rhag dy…
Month: October 2023
754: Ar y môr
Mae Santes Dwynwen a Daf y gath wedi hwylio ymaith mewn cwch gwyrdd pysen del. Mae gyda nhw Dreamies a digon o arian wedi ei lapio mewn papur pum punt. Mae Santes Dwynwen yn dechrau chwarae gitâr sydd wedi ymddangos o nunlle. – O gath fach mor hyfryd, o gath fach fy nghariad, cana Santes…
753: Cewyll cimychiaid
Mae Daf y gath a’r enwog Bryn Terfel yn parhau ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro yng nghwmni Santes Dwynwen, sydd wedi bod yn casglu egroes ar Y Parrog. Maen nhw’n cyrraedd bae lle mae dingi. Mae’r enwog Bryn Terfel yn cynhyrfu. O diar. Paid â mynd yn or-gyffrous, Bryn! Ond mae’n rhy hwyr. Bant…
752: Llaeth anghywir
Yn Sir Benfro, ar y Parrog, tra bod yr enwog Bryn Terfel yn bargeinio gyda hwyliwr am y blwch cardbord mae e’n ei ddyheu, mae Santes Dwynwen yn mynd â Daf y gath i gaffi mewn gwesty crand. Mae hi’n gofyn am goffi gwyn, a sleisen cwstard. Wrth gwrs. Mae Daf yn gofyn am laeth…
751: O Dudrath i’r Parrog
Mae’r enwog Bryn Terfel a Daf y gath yn crwydro ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro. Mae Bryn Terfel wedi dod o hyd i flwch cardbord fydd yn gweithio’n dda fel het ysblennydd. Mae e mor hapus. Mae Daf y gath wedi dechrau cwyno am yr holl gerdded. Mae Bryn Terfel yn ei chodi hi…
750: Yn Nhudrath
Mae’r enwog Bryn Terfel yn crwydro ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro. Erbyn hyn, mae e wedi colli ei het ysblennydd. Mae e’n cwrdd â Daf y gath yn Nhudrath. Mae Bryn Terfel eisiau cael peint yn y Llew Coch. Ond mae Daf y gath eisiau prynu Dreamies yn y Spar. Yn sydyn, mae Bryn…
749: Crwydro’r Arfordir
Mae’r enwog Bryn Terfel wedi mynd â’i het ysblennydd i’r arfordir. Yn anffodus mae hi’n wyntog iawn. Nid yw’r het yn hapus o gwbl. Bydd yn ofalus Bryn! Hanner ffordd rhwng Traeth Poppit a Bae Ceibwr mae Bryn Terfel a’i het yn cael row. Wrth iddyn nhw gyrraedd Tudrath, mae ei het yn mynnu aros…
748: Twpsod
– Ni ‘di creu llanast eto, meddai Daf y gath. Mae hi’n sefyll yng nghwmni’r enwog Julian Cope ac edrych ar yr holl Oweiniau Glyndŵr yn achosi trafferth yn y labordy. Yn lle creu miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae Daf y gath a’i pheiriannau wedi creu miliwn o dwpsod. – Sana i isie clonio pethe…
747: Miliwn o Dywysogion
Yn ôl ei arfer, mae Owain Glyndŵr yn rhedeg o gwmpas yn wyllt. Mae e mor, mor hapus pan mae e’n rhedeg. Mae Dewi Sant yn siaso’r enwog Owain Glyndŵr trwy labordy Daf y gath. Yn anffodus, mae Gwir Dywysog Cymru’n baglu dros Daf y gath a chwympo i mewn i beiriant clonio. O diar….
746: Clonio clonau’r peiriant clonio
Does neb yn gwybod sut i reoli’r peiriannau clonio, neu sut i drwsio gofod-amser. Ac mae cyffuriau’r enwog Julian Cope yn gryfach nag arfer. Mae Daf y gath yn gwylio peiriannau clonio’n dringo i mewn i beiriannau clonio eraill a chreu hyd yn oed yn fwy o beiriannau clonio. Am anhrefn cenhedlol. Ond bydd creu…
