Un tro, roedd Jeff yn crynu ac anadlu’n gyflym. Roedd y staff wedi meddwl bod chwain arni hi, ond doedd ‘na ddim. Druan arni hi. Pan ail-ymddangosodd o dan car y staff, roedd hi wedi treulio’r holl nos tu fas, ar ôl iddi rhedeg bant ar gyflymder o gant milltir yr awr. Gwrthododd symud. Felly,…
Month: April 2022
Byddin y chwain
Yn yr ardd, mae byddin y chwain wedi cyrraedd. Mae chwain ym mhobman – chwain grac a llwglyd. Mae Jeff yn esgus taw hi yw’r cawr Bendigeidfran, sydd yn esgus bod yn cenhinen, sydd yn esgus bod yn daten, er mwyn i’r cymhlethdod hwn eu atal nhw rhag ei brathu hi. Dyw hynny ddim yn…
Bwyd dwbl
Mae chwant bwyd ar Jeff. Fel arfer. Mae hi’n cael ei bwydo. Fel arfer. Mae hi’n llawn dop. Fel arfer. Yna, mae dyn y staff yn mynd mas. Mae menyw y staff yn dychwelyd. Mae Jeff yn esgus bod chwant bwyd arni hi unwaith eto. Er bod hi’n llawn dop. Mae hi’n ennill bwyd dwbl…
Gwastraff o amser
Un tro, roedd Daf y gath wedi cael swydd mewn swyddfa. Roedd hyn yn hollol anrhagweledig. Swydd bwysig yr oedd hi. Roedd gyda hi teitl crand, a chyfrifiadur mawr, cryf. Ond doedd dim byd i’w wneud. Aeth hi i gyfarfodydd er mwyn gwastraffu amser. Fe wnaeth hi sleidiau Pwynt Pwer er mwyn gwastraffu amser. Fe…
Twyllwr
Ar ôl i’r Cyn-Brifdaten ffrwydro, roedd y tatws i gyd yn hapus. Roeddent i gyd yn bwysig, ac yr oeddent i gyd yn dal i fod ar streic. Felly roeddent yn cael tamaid bach o hwyl a sbri ymhlith y caniau cwrw yn sied Dewi Sant yn lle protestio neu beth bynnag. Yn sydyn, sylweddolodd…
Ar Streic
Un tro, roedd y tatws ar streic. Doedd hyn ddim yn plesio’r Prifdaten o gwbl. Gorymdeithiai o gwmpas yr ardd, yn gweiddi’n grac. Ond yr oedd y tatws cyffredinol wedi cael hen ddigon o’r hen ffŵl swnllyd. – Mae gen i syniad, meddai un o’r tatws. – Beth am i ni gyd yn dod yn…
Balŵn
Un tro, daeth balŵn i’r ardd. Balwn aur, fawr oedd hi, a gododd ofn ar Jeff y gath. – Pam ti rhedeg bant, Jeff? gofynnodd Daf. – On’d wyt ti’n cofio’r tro diwetha wedd balŵn gyda ni? ymatebodd Jeff. – Nadw, meddai Daf. Oediodd. – O, acsiyli… Rhedodd Daf bant i ymuno â Jeff yn…
Aros ar gyfer y staff
Mae chwant bwyd difrifol ar Jeff y gath. Fel arfer. Mae hi’n mynd draw at Dewi Sant, sydd yn gwneud croesair. Wel, mae e’n esgus gwneud croesair. Mewn gwirionedd, mae e’n ysmygu ffag ac yfed cwrw. – Ble mae’r staff? meddai Jeff. – Mae’r staff wedi mynd, meddai Dewi Sant, cyn cwympo i gysgu. Yna,…
Menter Dragwyddoldeb
Un tro, roedd Daf y gath yn meddwl am ennill bach o arian ychwanegol. Doedd y fenter fflwff ddim wedi gweithio o gwbl, ac erbyn hyn roedd pentyrrau o obenyddion llawn o fflwff Daf o gwmpas yr ardd. Roedd blwch cardbord newydd gyda hi. Yn sydyn, fe gafodd syniad. – Be ti neud fan hyn?…
Ystlumod
Un tro, cyrraeddodd sawl ystlum yr ardd. Roeddent yn fflapio o gwmpas a bod yn niwsans. – Be ni fod i neud efo’r rhain? gofynnodd Dewi Sant. – Falle gawn ni’u rhoi nhw mewn ogof, atebodd Daf y gath, yn gynorthwyol. – Sdim ogof ‘da ni, meddai Dewi Sant. – A beth bynnag, ti’n dishgwl…
