Pan gyrraeddodd Jeff y gath ei chyfweliad am ddod yn weithredydd peiriant cwstard, sylweddolodd bod rhywbeth o’i le. Roedd Santes Dwynwen yn eistedd tu ôl i fwrdd gerllaw sied Dewi Sant ynghyd â Keith y gwrden, Draig y ci, a Mistar Penglog. Ar y bwrdd oedd hefyd darn o bren. – Ymddiheuriadau, meddai Santes Dwynwen….
Category: Chwilio am waith
Gwahoddiad (Chwilio am Waith, rhan 5)
Fe gafodd Jeff y gath sioc pan ymddangosodd llythyr yn ei phowlen. Bu bron iddi ei fwyta. Agorodd yr amlen cyn gynted â phosibl, yn frwd, a dechrau ei ddarllen. Re: Swydd Gweithredwr Peiriant Cwstard Annwyl Jeff y gath Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb yn y swydd hon. Byddaf wrth fy modd yn…
Hysbyseb (Chwilio am Waith, rhan 4)
Ar ôl i Jeff gwblhau ei CV, fe ddangosodd hysbyseb swydd, wedi’i hoelio i goeden yn yr ardd. Cyfle Cyffrous – Gweithredwr Peiriant Cwstard Santes yn chwilio am weithredwr peiriant cwstard. Nid oes angen profiad o’r blaen. Basai’r swydd hon yn addas i gath galico. Byddwch yn gweithio fel rhan hanfodol o dîm sydd yn…
Sgiliau ac Ansoddau Hanfodol Jeff (Chwilio am waith, rhan 3)
Parhâi Jeff i weithio ar ei CV hi. Sgiliau ac ansoddau hanfodol Gryf iawn am gyfathrebu mewn ffyrdd sydd yn addas i’w chynulleidfa – gan amla i berswadio’r staff, neu Dewi Sant, i’w bwydo. Da iawn am floeddio er mwyn tynnu sylw, yn enwedig gyda meicroffon. Gweithredydd hyderus o ran hela. Meddyliwr cryf a chreadigol o…
Datganiad Personol Jeff (Chwilio am Waith, rhan 2)
Datganiad Personol – Jeff y gath Cath hyblg yr wyf, gan dros 7 mlynedd o brofiad o fwyta brecwestau a chiniawau cathod eraill, sydd yn angerddol am ddal llygod er mwyn eu rhoi fel anrhegion i’r staff. Rwyf yn mwynhau ffeindio dullau creadigol i ddwyn bwyd. Rwyf yn ymrwymedig i anwybyddu Daf y gath yn…
CV (Chwilio am Waith, rhan 1)
Un tro, roedd Daf wedi dechrau creu ei CV, gan yr oedd e wedi cael llond bola o Jeff, ac oedd eisiau cymryd rhan mewn rhai straeon eraill arno. Dygai ei frecwast yn barhaol. Ac ei ginio. Ac ei swper. – Be’ ti ‘neud? meddai Jeff, wrth iddi sylwi ar Daf yn gweithio ar ei…
