Mae Daf y gath yn edrych allan drwy’r ffenest ar yr ardd. Pam? Beth mae hi’n ei wylio? Mae hi’n gwylio’r enwog Bryn Teribl. Beth mae Bryn yn ei wneud? Mae e’n rholio o gwmpas ar y glaswellt, yn noethlymun. Ydy e wedi cymryd gormod o Dreamies seicedelig Daf? Ydy. Mawredd yr adar.
Month: September 2026
1407: Nofel
Mae Dewi Sant wedi gorchymyn i’w gi artiffisial ysgrifennu nofel. Roedd e’n gobeithio cael ei ddiddanu wrth wylio’r ci artiffisial yn trio defnyddio ysgrifbin. Ond mae’r ci eisoes wedi cwblhau’r nofel a’i hanfon i ffôn symudol Dewi Sant. Am beth mae’r nofel? Mae’r nofel yn dilyn ci artiffisial ffantastig sy’n ysgrifennu nofel am gi artiffisial…
1406: Ci
Mae Santes Dwynwen wedi prynu ci robotaidd i gyd-fynd â Daf artiffisial Dewi Sant. Roedd y ci robotaidd yn ddrud iawn, ac roedd rhaid i Santes Dwynwen gwerthu llawer iawn o’i chwstard ffiaidd er mwyn ei fforddio. Pam mae Santes Dwynwen wedi prynu’r robot? Achos ei bod hi am ddangos ei bod yn Santes fodern….
1405: Daf a Jeff artiffisial
Mae Dewi Sant wedi penderfynu dylai cath robotaidd llenwi lle Daf y gath. Mawredd yr adar. Beth fydd yn digwydd i’r Daf go iawn? Bydd rhaid iddi hyfforddi’r Daf artiffisial newydd. Bydd y Daf artiffisial yr un mor anobeithiol â Daf ei hun. Am drist. Fydd ‘na Jeff artiffisial hefyd? Dyw hi ddim yn mynd…
1404: Gwaith celf
Mae Bryn Teribl wedi bod yn creu celfyddydwaith. O diar. Mae e wedi bod yn gorchuddio ei holl gorff noeth â phaent a rholio o gwmpas ar gynfas enfawr wrth wisgo ei het ysblennydd. Mae’n gwbl arswydus. Mae Daf y gath wedi bod yn recordio’r holl broses â chamera fideo. Y fideo fydd y gwaith…
1403: Adlifiad asid
Mae Dewi Sant yn dioddef o adlifiad asid, achos ei fod e wedi bod yn bwyta gormod o gwstard ffiaidd Santes Dwynwen. All e ddim llyncu’n iawn. O diar. Bydd angen mwy o win coch arno. Mae Daf y gath yn awgrymu dylai Dewi fynd i weld y meddyg. Ond byddai’r meddyg yn gofyn cwestiynau…
1402: Ymarfer corff
Dyw Dewi Sant ddim yn iach. O diar. Ydy ei fys wedi ei brifo? Nac ydy, dydyn ni ddim yn canu Sosban Fach heddiw. Mae Dewi Sant wedi codi pwysau, ac mae e wedi bod yn smocio gormod o sigarennau. Mae e’n teimlo’n rhy flinedig o lawer i helpu’r Pab codi diwygiad newydd yng Nghrymych….
1401: Llythyr
Mae Dewi Sant wedi derbyn llythyr drwy’r post. Dyw e ddim wedi derbyn llythyr ers blynyddoedd. Pwy sydd wedi ysgrifennu’r llythyr? Y Pab sydd wedi ysgrifennu’r llythyr. Mawredd yr adar! Ydy Dewi wedi cael y sac eto? Nac ydy, mae angen help ar y Pab. Mae Crymych wedi mynd yn rhy ddigrefydd yn ddiweddar, felly…
1400: Planhigion
Ddoe, fe blannodd Daf y gath gynnwys paced o Dreamies fel pe baent yn hadau, er mwyn trwsio’r lawnt. Ydyn nhw wedi egino eto? Ydyn! Sut olwg sydd ar blanhigyn Dreamies? Mae planhigion Dreamies yn edrych fel gobenyddion gwyrdd bychan. Dydyn nhw ddim yn edrych fel glaswellt o gwbl. Am siomedig. Sut flas sydd arnyn…
1399: Lawnt
Mae Daf y gath wedi bod yn syllu ar y lawnt. Ydy’r lawnt yn tyfu? Ydy, mewn ffordd. Mae’n edrych fel pen dyn sydd ag alopesia. Mae’n amlwg na fydd y darnau moel yn adfer o’r sychder. Mae Daf yn cael syniad. Beth am iddi blannu Dreamies fel pe bydden nhw’n hadau? Mae hi’n mynd…
