Mae’r Esgob wedi gwahodd yr Archesgob i ymweld ag Owain Glyndŵr. Mae hynny’n swnio’n beryglus. Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw Archesgob ymweld ag Owain Glyndŵr ddwywaith. Beth ddigwyddodd y tro diwethaf? Peidiwch â gofyn. Ond roedd cwstard ym mhobman. Bydd rhaid i Daf y gath ei lonyddu gyda’i Dreamies seicedelig. Saesneg / English…
Month: February 2025
1210: Streic
Mae’r biniau ar streic. Mae’r cyngor ar streic. Mae pawb ar streic ac eithrio Dewi Sant. Am unwaith. Pam mae pawb ar streic? Mae Daf y gath ar streic oherwydd y cyngor. Mae Jeff y gath ar streic oherwydd bod Daf y gath ar streic. Mae cadwyn o streiciau. Mae Owain Glyndŵr ar streic barhaol,…
1209: Cwm
Mae canolfan grefft Dewi Sant yn sefyll ar waelod cwm. Yn anffodus, mae’r Esgob yn mynnu adeiladu argae a boddi’r cwm er mwyn darparu dŵr i’w eglwys newydd lle’r oedd Crymych yn arfer bod. O diar. — Beth am i ni sgwennu llythyr at y cyngor? medd Jeff y gath. — Sdim pwynt, medd Daf…
1208: Adeiladwyr
Cyrhaeddodd yr adeiladwyr yn gynnar. Roedd yr Esgob wedi dod o hyd iddyn nhw yn y “Tudalennau Melyn”, a’u cyflogi nhw yn syth bin fel eu bod yn gallu dechrau adeiladu eglwys ar hen safle Ysgol y Preseli. O diar. Cowbois oedden nhw? Siŵr o fod. Dechreueon nhw drwy osod sylfeini pyst. Iawn hyd yma….
1207: Eglwys
Roedd Daf y gath am ail-adeiladu Crymych ar ôl i octopws anferth ei fwyta. Pwy fyddai’n ei helpu? Wel, roedd Waldo Williams yn barod gyda’i weiars a lifers, ynghyd â Santes Dwynwen, oedd yn barod i gymysgu’r sment. Ond dyma’r Esgob yn prowlan o gwmpas y safle. Roedd yr Esgob am feddiannu’r tir ac adeiladu…
1206: Gwynt
Roedd octopws anferth wedi bwyta Crymych i gyd. Nawr, yn anffodus, roedd gwynt arno fe. Roedd y gwynt yn gwasgu arno fe. Yn drwm. Oedd tabledi ar gael i rywun sy’ wedi bwyta pentref? Nac oedd. Yn anffodus roedd yr octopws wedi bwyta’r fferyllfa hefyd. Arhoswch am eiliad. On’d yw hynny’n golygu ei fod wedi…
1205: Pryd o fwyd
[Rhybudd: lot o dafodiaith Sir Benfro y tro ‘ma!] — Wel, meddai’r octopws oedd wedi bwyta Crymych wrth Daf y gath, — Wedd hwnna’n bryd neis. — Sanot ti’n gallu mynd obiti’r lle’n bita pentrefi cifan, meddai Daf y gath. — Fel arfer sen i ond yn bita’r orsaf tân, meddai’r octopws. — Ond wê…
1204: Colledig
Roedd rhywun wedi dwyn Crymych. Sut mae dod o hyd i bentre colledig? Ni wyddai Daf y gath. Oedd rhywun wedi dwyn pentre cyfan o’r blaen? Nac oedd, hyd y gwn i. Ble fyddech chi’n cadw pentre ar ôl ei ddwyn? A beth fyddai wedi digwydd i’r trigolion? Aeth Daf y gath am dro i…
1203: Absenoldeb
Un tro, cafodd Daf y gath ei dihuno gan rywun oedd yn codi stŵr yn y gegin. Roedd Santes Dwynwen yn gwrando ar y newyddion ar y radio. Rhaid bod rhywbeth mawr o’i le, meddyliodd Daf. Yn wir, roedd rhywbeth mawr o’i le. Roedd Santes Dwynwen mewn sioc. Digwydd bod, roedd rhywun wedi dwyn Crymych….
1202: Waldos
Mae pedwar Waldo Williams mewn tafarn yng Nghrymych dystopaidd 3025. Ynddengys bod Waldo wedi teithio drwy amser sawl gwaith a rhwygo gofod-amser. Mae’r Waldos yn cynnal cyfarfod. Maen nhw i gyd am newid hanes fel na fydd Daf y Gath yn mynd yn anfad. Beth allan nhw wneud? Os ydyn nhw am fynd yn ôl…
