Dros y Nadolig, mae’r tymheredd wedi bod yn gymharol uchel. Mae Daf y gath wedi treulio llawer o amser yn yr ardd yn ddiweddar. Felly pam mae Owain Glyndŵr yn teimlo mor oer? Achos ei fod e yn yr oergell o hyd. Pam nad yw e wedi symud? Achos ei fod e mewn cyffion. O…
Month: December 2024
1165: Tabledi deiet
Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff yn penderfynu mynd am dro er mwyn llosgi calorïau. Yn anffodus maen nhw wedi codi gormod o bwysau ac mae’n anodd iddyn nhw symud. Arhoswch am eiliad. Pam mae Daf wedi nôl tabledi gleision? “Tabledi deiet” ydyn nhw. Pa fath o dabledi deiet ydyn nhw? Sbîd ydyn nhw!…
1164: Normalrwydd
Mae pawb yn y ganolfan grefft yn teimlo’n dew iawn, ac eithrio’r enwog Owain Glyndŵr, sydd mewn cyffion yn yr oergell o hyd. Dim ond powlen o fwyd normal â chwpl o Dreamies mae Daf y gath eisiau. Ond mae Santes Dwynwen yn parhau i goginio’n wyllt. Heddiw, mae hi’n coginio ceffyl cyfan. Pwy sy’n…
Nodyn oddi wrth yr awdur
Ymddiheuriadau: dwi wedi bod yn cael llawer o broblemau technegol gyda’r wefan. Dyna pam mae golwg wahanol arni. Note from the author Apologies: I’ve been having a lot of technical problems with the site. That’s why it looks different.
1163: Bwyd ar ôl
Mae’r ganolfan grefft yn llawn o fwyd ar ôl. Pwy sy’n mynd i’w fwyta? Does neb eisiau brechdan twrci arall. Does neb eisiau mins pei arall. Ac yn sicr, does neb eisiau sbrowt arall. Felly, beth mae Santes Dwynwen yn wneud yn y gegin? O na. Mae hi’n coginio darn o gig enfawr arall, gan…
1162: Brêcs
Mae Waldo Williams mewn sied y tu ôl i’r ganolfan grefft. Beth mae e’n wneud? Mae e’n tincran. Gyda beth mae e’n tincran? Brêcs ei feic modur. Roedd Santes Dwynwen a Daf y gath yn poeni am anniogelwch yr hen feic modur, felly casglon nhw arian i brynu brêcs newydd ar ei gyfer. Fydd y…
1161: Gorfwyta
Mae Daf y gath wedi gorfwyta. ‘Dyn ni gyd yn gwybod beth mae hynny’n golygu. Mae Daf wedi chwydu dros y lle i gyd. O Daf. Mae Daf wedi chwydu ar y rỳg, mae hi wedi chwydu ar ei bocs crafu, mae hi hyd yn oed wedi chwydu ar Jeff. Nid yw Jeff yn hapus…
1160: Cerdd
Mae Jeff y gath wedi cyfansoddi cerdd i ddathlu Dydd Nadolig. Cerdd am sbrowts yw hi. Mae hi’n falch iawn, ac mae’r gerdd yn seiliedig ar weddi’r Arglwydd. Fydd hi’n mynd i drafferth gyda’r seintiau? Na fydd. Maen nhw’n gallach na hynny. Dyma Jeff yn darllen ei cherdd hi: Ein sbrowtsYr hyn ydych yn y…
1159: Glanhau
Bydd rhieni Dewi Sant yn ymweld â’r ganolfan grefft dros y Nadolig. O diar. Mae Dewi’n trio tacluso, ond mae poteli cwrw a brandi ym mhobman. Heb sôn am y llestri llwch llawn. Maen nhw’n cyrraedd wrth iddo fe lenwi bag bin arall. — Beth am i ni fynd mas am swper? gofyn Dewi. Saesneg…
1158: Siopa
Mae Daf y gath wedi mynd i’r archfarchnad yng nghwmni Santes Dwynwen i brynu cwrw Dewi Sant. Mae’r archfarchnad dan ei sang. Arhoswch am eiliad. Dyna’r Esgob! Mae gan yr esgob droli llawn o ddiodydd – cwrw, gwin, gwirodydd, popeth. Mae’n edrych fel bydd yr oedfa gymun a gynhelir ddydd Nadolig yn llawer o hwyl….
