Dwê wedd y gwres yn alarus, felly ifes alwyni’n farus. Daf ifodd mwd a ddâth mas fel ffrwd a’i phen ôl yn gwbl drycsawrus.
Month: June 2026
1377: Limrig Daf — Bag Plastig
Heb dalent ond mor enthiwsiastig, mae hela fi braidd yn stocastig — fi’n symud yn wallgof fel ystlum mewn ogof a bennu lan dala bag plastig.
1376: Limrig Jeff — Hwch
Ar ôl rholio’n llawen mewn llwch, ar helfa fe ddales i hwch. Am heliwr bach dawnus! Am gig-fynydd blasus! Fi’n cysgu’n braf yn fy mlwch.
1375: Limrig Daf – Diniweidrwydd
Tystydd bydd Jeff — fi’n ddiniwed! Nid y fi wnaeth ddinistrio’r carped, ond y gath o ddrws nesaf sy’n chwydlyd i’r eithaf! Yn anffodus wê’r fflap yn agored.
1374: Limrig Jeff — Rhosod
Wedi hela rhyw ddwsin o lygod, wen i’n crafu yng ngwely’r rhosod, yn osgoi codi stŵr (wen i isie neud dŵr — ar ôl yr holl grafu, y gawod).
1373: Limrig Daf — Carped
Am gywilydd! Am lanast! Am gachfa! Wen i wedi bod yn brecwasta; Fe fytes yn rhy glou, ac ar ôl bach o hoe, nes i hwdu ar garped y lolfa.
1372: Limrig Jeff – Bwyd
Bnawn ‘ma, nath hi ddwyn hanner bwyd fi, So rhois slap iddi tra wedd hi’n cysgu, Ond ddigwyddodd dim byd — Mae hi’n cysgu o hyd — Felly dyma fi’n gorffen ei bwyd hi.
1371: Ysgawen
Mae Santes Gwladys wedi plannu coeden yn yr ardd. Ysgawen yw hi. — Wê digon o cwêd ‘da ni yn barod, medd Daf y gath. Ac mae hi’n hollol iawn. Mae’r ardd wedi troi’n goedwig, ac mae’r goedwig yn taflu cysgod dwfn dros bopeth. Fydd neb yn gallu gweld y siop, ac felly ni fydd…
1370: Rysáit
Mae Daf y gath yn hoff iawn o syniad Santes Dwynwen o sefydlu Siop Gwstard yn y pentre. Ydy pawb wedi anghofio am yr anrhefn a achoswyd gan Julian Pope yn y Fatican? Ydy. Mae cwstard yn llawer pwysicach. Ydy Daf yn dal i chwilio am y grŵf? Nac ydy. Ble mae Dewi Sant a’r…
1369: Gwerthu
Mae Santes Dwynwen wedi gwerthu’r enwog Owain Glyndŵr. Pwy brynodd e? Consortiwm o gyfalafwyr mentro brynodd e. Mawredd yr adar. Beth maen nhw’n mynd i’w wneud gyda fe? Pwy a ŵyr. Ond am yn awr, mae’r gegin yn dawel, a gall Santes Dwynwen gwneud cwstard heb boeni am ymyrraeth anochel Owain a’r anrhefn ddilynol. Digwydd…
