Roedd hi wedi bod yn noson galed. Wrth ymyl y biniau, oedd Dewi Sant yn cysgu’n sownd, â llwyth o boteli o’i gwmpas. Roedd ‘na gwstard ym mhobman, a phan ddihunodd Daf y gath, gwelodd e Santes Dwynwen yn rhwygo nicars, un pâr ar ôl y llall. Roedd hi’n amlwg ei bod hi’n dal wedi…
Month: September 2021
Math Newydd o Danwydd
Oherwydd y prinder tanwydd, roedd cymaint o bethau yn aros am gael eu dosbarthu. Roedd hyn yn dod yn broblem go iawn. Siaradodd Daf y gath â’r Archfadarch. – Alli di’n helpu fi? meddai Daf. – Dw i angen rhyw fath o gerbyd sy’ ddim yn defnyddio petrol. – Wrth gwrs, meddai’r Archfadarch. – Arhosa…
3 Llun Jeff
Roedd gyda Daf y gath sinsir fenter newydd. Oherwydd y prinder tanwydd, roedd gwneud dosbarthiadau yn amhosib, felly daeth e’n cyfwelwr ar gyfer BBC Cymru Fyw. Ei dasg cyntaf oedd cyfweld ei ffrind Jeff y gath galico yn enwedig ar gyfer tudalen “3 Llun”. – Reit, rwy’n mynd i ddechrau recordio nawr, meddai Daf, wrth…
Prinder
Un tro, roedd prinder tanwydd. Roedd Daf y gath yn methu gwneud ei ddosbarthiadau, achos nad oedd gyda fe betrol ar gyfer ei fan. Oherwydd y diffyg dosbarthiadau, doedd dim powdr cwstard ar gael. Oherwydd y prinder powdr cwstard, nid oedd santes Dwynwen yn gallu gwneud cwstard cariad. Oherwydd y prinder cwstard cariad, nid oedd…
Cathod Cwantwm
Un tro, roedd Daf wedi penderfynu rhoi darlith i’r madarch. Roedd gyda fe ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, fel mater o ffaith. Bocs mawr â chaead yn gynnwys powlen o fwyd cathod yr oedd o’i flaen. Tawel oedd ei gynulleidfa o fadarch, yn edrych ar Daf yn ddisgwylgar. – Reit, ‘te, meddai Daf, – dw i’n…
Anwybodus
Un tro, roedd Daf y gath yn anwybyddu pawb yn yr ardd. Problem gyda’i fan yr oedd e’n ceisio datrys. Fyddai’r injan ddim yn tanio. – Daf? meddai Jeff, ei ffrind calico. Bu tawelwch. Parhaodd Daf i botsio gyda’r fan. – Daf! bloediodd Jeff. – Ti’n rîly anymwybodol. – Nadw, meddai Daf, yn codi ar…
Haiku Jeff
Un tro, roedd Daf y gath a Franz Kafka yn chwarae gyda Draig y ci yn yr ardd. Byddai Daf yn taflu’r bêl, a Kafka’n adrodd rhywbeth diflas wrth i’r ci’w nôl hi. Ymddangosodd Jeff y gath galico, yn gyffrous iawn. – Daf, meddai hi, – wi ‘di sgwennu haiku. – Ti ‘di sgwennu beth? – Haiku….
Pêl Draig
Un tro, roedd Draig y ci yn bod yn frwdfrydig. Roedd pêl gydag e. – Draig dw i – bachgen da dw i – dw i’n hoffi chwarae – dw i’n hoffi peli – dw i’n hoffi chwarae gyda pheli – bachgen da dw i – fyddi di’n chwarae gyda fi, plis – plis –…
Y Grisiau
Un tro, wrth i’r sosban fach yn berwi cwstard cariad Santes Dwynwen yn hapus, roedd Daf y gath yn syllu ar sied Dewi Sant, a oedd nawr yn llawn dop o fwyd cathod. Doedd dim llawer o le ar ôl i Dewi Sant orwedd i lawr, heb sôn am groesawu ei gariadon ef gyda’r nos….
Tri Dymuniad Jeff y Gath
Roedd Dewi Sant yn taflu llwythau o sbwriel allan o’i sied. Hedfanodd sawl teledu drwy’r awyr, a laniodd mewn gwely blodau. Roedd hefyd sawl nicars Santes Dwynwen, ac, i syrpreis pawb, sawl nicars y Frenhines Branwen hefyd. Casglodd Daf y gath y nicars. – Galla i werthu’r rhain ar eBay new ymlân, meddyliodd. Daeth Jeff…
