Un tro, roedd Jeff y gath yn cadw ei adduned Blwyddyn Newydd ac yn anwybyddu Daf yn gyfan gwbl. Roedd hi’n crafu’n frwdfrydig. Aeth y pla ymlaen. – Daf, dere fan hyn, meddai’r pla, yn chwifio ei dentaclau, – dw i angen dy help di. – Iawn, meddai Daf y gath, heb ddiddordeb. Roedd hi’n…
Category: Y Pla
Y Pla – rhan 3
Cyn hir, roedd Franz Kafka wedi clirio’r ardd o waed, ac roedd pawb yn llawn dop o bwdin du. Hepiai’r cathod, oedd yn awr yn rownd iawn. – Pla nesa amdani, meddai’r pla, gan chwifio ei dentaclau. – Beth? mwmianodd Daf y gath, yn dihuno’n araf. – Ni ddim ‘di dod yn ôl at ein…
Y Pla – rhan 2
Ar ôl i’r pla glirio lle yn sied Dewi Sant i fwyd cathod, trawyd Daf y gath gan sylweddoliad bod rhywbeth o’i le. Roedd y pla yn chwarae yn hapus gyda Draig y ci mewn cornel, wrth i Franz Kafka canu cân fudr am selsigen Nadoligaidd. – Esgusodwch fi, Mistar Pla, meddai Daf, yn rhyfedd…
Y Pla
Un tro, daeth rhywbeth od i fewn i’r ardd. Rownd, gwyrdd oedd e, â thentaclau ym mhobman. – Helo, meddai’r peth. – Pla dw i. – Dim heddi, diolch, meddai Daf y gath, a oedd yn llyfu ei draed. – Oni bai wyt ti’n gallu helpu clirio bach o le yn sied Dewi Sant. Ni’n…
