Tra bod yr enwog Bryn Teribl yn dathlu ei het newydd, mae’r criw o’r enwog Julian Cope, Dewi Sant, a’r cathod wedi cyrraedd y bedwerydd Crymych ger Aberdaugleddau. Mae’n edrych bron yn union fel y trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd, heb y tiwtoriaid Cymraeg. – Wel, dyma ni ‘te, meddai’r enwog Julian Cope….
Month: April 2024
933: Het
Mae’r enwog Bryn Teribl yn parhau i achosi trafferth yn y gegin. Dyw e ddim wedi bod yn gwisgo het yn ddiweddar. Ond mae ei ben wedi bod yn teimlo’n oer, gan fod y gwanwyn hwn mor ddiflas. Beth sydd yn y gegin a fyddai’n gwneud y tro fel het ysblennydd? Mae e’n dechrau ymbalfalu…
932: Trôns
Mae’r enwog Bryn Teribl yn helpu Santes Dwynwen yn y gegin. Mae e’n dda i ddim. Dim ond achosi trafferth mae e, yn ôl ei arfer. Mae’r peiriant golchi dillad newydd orffen llwyth o olch. Mae Bryn Teribl yn agor drws y peiriant golchi dillad a thynnu pâr o drôns. Trôns pwy ydyn nhw? Gan…
931: Sanau
Tra bod yr enwog Julian Cope yn cyflwyno’r bedwerydd Crymych i Dewi Sant a’r cathod, mae’r enwog Bryn Teribl yn ceisio helpu Santes Dwynwen yn y gegin eto. O diar. Mae e’n berwi sanau mewn sosban. – Am hen-ffasiwn, meddai Santes Dwynwen. – Ma’ gyda ni beiriant golchi dillad ar gyfer hynny y dyddie ‘ma….
930: Mwy
Yn y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd, mae’r Mistar Urdd Arall yn dechrau dawnsio o gwmpas cromlech. Mae’r gromlech yn binc. Dyma’r unig beth sy’n lliwgar yn y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd. Cyn bo hir, mae lliwiau dwys ym mhobman. Mae cerddoriaeth seicedelic yn dechrau chwarae, ac mae’r miloedd o…
929: Gweddi Dewi Sant
Mae Dewi Sant wedi bod yn gweddïo. Mae e wedi cael llond bol o fod yn y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd, lle mae popeth yn dywyll ac yn diflas. “Ein Tad, yr hwn wyt yn Sir Benfro, Helpa ni, er mwyn popeth. Cofion cynnes, Dewi. Amen.” Mae Duw heb ymateb eto. Mae’r…
928: Hunllef
Mae Jeff y gath yn cysgu ar ei blanced hi. Mae ei anadl yn dechrau trymhau. Beth sy’n digwydd? Mae Jeff yn cael hunllef. O diar. Yn yr hunllef, mae hi’n gweld llawer o bethau, fel mynydd, tywydd drwg, Dewi Sant, a Daf y gath. Yna, mae rhywun yn ei gorchymyn i ymarfer yr amser…
927: Blanci
Mae Jeff y gath yn cysgu ar ei flanced. Dyw hi ddim yn poeni am ddim byd. Ble mae Daf y gath? Pwy a ŵyr? Efallai ei bod hi’n dal i fod yn y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd. Efallai ddim. Dyw Jeff ddim wedi clywed gan Daf byth ers iddi dderbyn y…
926: Amser neis
Tra bod Dewi Sant a Daf y gath yn y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd, mae Jeff y gath wedi bod yn cael amser neis yn y blwch cardbord y tu ôl i’r soffa. Ble mae’r soffa? Yn nerbynfa’r gwesty yw’r soffa. Mae pethau mor dawel heb Daf. Does dim ffraeo o gwbwl….
925: Cerdyn post
Mae Dewi Sant wedi ysgrifennu cerdyn post at Santes Dwynwen. “Annwyl Dwyni, y’n ni ‘di ca’l amser diddorol yn y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mwni ond nawr sdim llefeleth ‘da ni shwd i fynd nôl i’r Crymych go iawn. Ni’n styc fan hyn. Helpa ni.” Mae e’n clymu’r cerdyn yng nghoes y frân…
