1358: Het Babaidd

“Ody Owain ‘di cael damwen?”

Mae’r enwog Bryn Teribl yn achosi trafferth. Mae e’n cael pwll o dymer ynghanol y Fatican achos ei fod am gael het fel het ei efell, yr ynfyd Owain Glyndŵr, sef y Pab newydd.

Mae Jeff y gath yn gofyn y cwestiwn nad oes neb am wybod yr ateb iddo.

— ‘Rhoswch am eiliad, ody Owain ‘di câl damwen?

Yr ateb yw: ydy.

O diar.

Dylai’r Pab ddim cael damweiniau ar ei orsedd.

Mae’r cardinaliaid yn ymgasglu o’i gwmpas a thynnu ei het babaidd. Mae Owain yn dechrau llefain.

Er syndod mawr i bawb, maen nhw’n rhoi’r het i’r enwog Julian Cope, sydd yn dal i fod wrthi’n adeiladu cromlech ynghanol yr eglwys.

Ymddengys mai fe fydd y Pab newydd, ynteu. Henffych Julian Pope!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.