Mae’n ofnadwy o dawel. Mae pawb wedi mynd, heblaw am y cathod. Mae Daf y gath yn ddigon hapus yn llyfu ei thraed, ond mae Jeff y gath eisiau staff newydd. Mae hi wedi gorfod ffeindio staff newydd o’r blaen, ar ôl misoedd ar y ffyrdd. Mae hi’n gadael drwy’r fflap cathod. Mae stad o…
Month: July 2025
1324: Hwyl fawr, Dwynwen
Mae Dwynwen am fynd. Mae popeth yn dawel iawn erbyn hyn. Mae hi’n teimlo’n hiraethus am yr hen ddyddiau, ond mae’n bryd iddi symud ymlaen. Ydy hi’n mynd i’r nefoedd? Nac ydy. Mae hi wedi troi ei gefn ar Gristnogaeth. Wrth iddi fwytho Daf y gath am y tro olaf, mae rhywbeth yn ymddangos uwch…
1323: Hwyl fawr, Owain
Mae mam yr efeilliaid wedi dychwelyd. Mae hi wedi dod i nôl yr enwog Owain Glyndŵr. Ond fel unrhyw plentyn sy ddim eisiau gadael parti pen-blwydd, dyw Owain ddim am fynd. Mae’n hen bryd i ti fynd, Owain. Mae Owain yn mwytho’r cathod. Ond mae Daf y gath wedi cael digon o gael ei mwytho,…
1322: Hwyl fawr, Bryn
Mae mam Bryn Teribl wedi troi lan. Mae hi wedi dod i’w gasglu. O’r diwedd! Mae hi wedi dod â’i fenyg cau diogelwch er mwyn ei rwystro rhag mynd i drafferth ar y ffordd yn ôl. Mae Bryn mor hapus i weld ei fam hyfryd ar ôl cymaint o amser. Mae e’n mynd i nôl…
1321: Hwyl fawr, Dewi
Mae Dewi Sant wedi cael digon. Digon o beth? Digon o bopeth. Mae e wedi bod yn aros am gannoedd o flynyddoedd i fynd i’r nefoedd. Sut mae mynd i’r nefoedd? Mae hi fel mynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, ond heb gyffuriau. Mawredd. Am unwaith yn ei fywyd, mae Dewi Sant…
1320: Papur toiled
Mae rhywun wedi dwyn holl bapur toiled y pentref. Mawredd. Pwy allai fod wedi gwneud hynny? Does neb yn gwybod. Mae Dwynwen yn galw’r heddlu. Cyn hir, mae’r Arolygydd yn cyrraedd a dechrau ei ymchwiliadau. Arhoswch am eiliad. Pam mae sied ychwanegol yn yr ardd? A pam mae’r sied ar dân? Ymddengys bod Owain Glyndŵr…
1319: Twyll
Mae Dwynwen a Daf y gath yn trio mantoli cyfrifon Dewi Sant. Ymddengys bod cyfanswm sylweddol o arian wedi mynd ar goll. O diar. Ble mae’r arian? Pwy a ŵyr. Ond mae llwyth o boteli gwag yn y bin ailgylchu. Does gan Dwynwen ddim dewis. Mae hi’n galw’r heddlu. Dyma’r Arolygydd yn cyrraedd. Heb ymchwil…
1318: Llofruddiaeth
Mae llofruddiaeth wedi bod! O diar. Pwy sy’ wedi cael eu llofruddio? Does neb a ŵyr. Ond mae gwaed dros y lle i gyd. Efallai bod Bryn Teribl wedi llofruddio Owain Glyndŵr. Nac ydy. Mae Owain yn yr ardd yn chwarae gyda Cthŵlhŵ. Efallai bod Dwynwen wedi llofruddio Dewi Sant. Nac ydy. Mae Dewi Sant…
1317: Trosedd
Mae Daf y gath wedi cyflawni trosedd. O diar. Ydy’r trosedd yn un difrifol? Ydy. Mawredd. Beth mae hi wedi wneud? Mae hi wedi dwyn bwyd Jeff y gath. Mae Jeff wedi galw’r heddlu. Cyn bo hir, mae’r Arolygydd yn troi lan. — Helo, helo, helo, medd yr Arolygydd. — Beth sy’ gyda ni fan…
1316: Swyddi
Mae’r swyddi i gyd wedi mynd! O diar. Pwy allai fod wedi rhagweld hynny? Daf y gath, dyna pwy. Mae Bryn Teribl wedi bod yn gwneud ceisiadau am amrywiaeth o swyddi fyddai’n addas i ynfytyn. Mae e wedi gwneud cannoedd o geisiadau. Beth yw canlyniad ei geisiadau? Dim byd. Dyw’r peiriannau dealltwriaeth artiffisial ddim am…
