Mae Harri Benwyn, y ffasgydd enwog, wedi cynnal cynhadledd yng Nghrymych. Mae e’n dweud ei fod yn disgwyl i bawb fod yn hapus. Bydd mwy o ddienyddio hyd nes i’r trigolion i gyd fod yn hapusach. Pwy sydd wedi cael eu dienyddio hyd yn hyn? Neb. Dyna’r peth. Mae bygythiadau Harri Benwyn yn gwbl wag….
Month: August 2026
1396: Drama
Mae Daf y gath wedi ysgrifennu drama fel menter newydd. Mae hi’n mynd i fod yn ddramodydd byd-enwog! Beth sy’n digwydd yn y ddrama? Yn y ddrama, y prif gymeriad ydy cath o’r enw Daf. Yn y ddrama mae hi’n ysgrifennu drama fel menter newydd a dod yn ddramodydd byd-eang. Does dim pwynt gofyn beth…
1395: Gwyliau
Mae Daf y gath wedi bod ar ei gwyliau yng nghwmni ei chwaer, Jeff. Ble aethon nhw? Aethon nhw i’r gwesty cathod. Oedd Samuel Beckett yn dal i fyw mewn un o’r cabanau? Oedd. Mae e’n hoff iawn o fannau cyfyng, wedi’r cyfan. Yn anffodus, roedd fflap cathod rhwng caban Daf a Jeff a chaban…
1394: Eglwysi fforddiadwy
Mae’r Archesgob newydd am adeiladu mwy o eglwysi fforddiadwy. Ond does dim adeiladwyr ar gael yng Nghrymych. Aethon nhw i gyd yn ôl i Wynedd ar ôl y pandemig. Bydd rhaid hyfforddi’r cathod lleol a’r seintiau. Mawredd yr adar. — Hei Daf, be ti neud gyda’r trywel ‘na? gofyn Jeff y gath, sydd wedi bod…
