Roedd rhaid i Dewi Sant gael gwared â’i ocarina ar ôl iddi gael ei thynnu yn ystod ei lawdriniaeth. Ond yn anffodus mae e wedi dod o hyd i grymgorn. Sut offeryn ydy crymgorn? Mae crymgyrn yn dyddio’n ôl i’r Canol Oesoedd. Maent yn swnio fel haid o wenyn candryll. Gwych. Ydy e’n ymarfer? Ydy….
Month: October 2026
1410: Llawdriniaeth
Mae Dewi Sant mewn theatr lawdriniaeth. O na. Beth sy’n bod arno? Wel. Fe fuodd yn ymarfer “Llosg Llundain” ar ei ocarina ail-law am teirawr, a gyrru Daf y gath a’r enwog Bryn Teribl o’u coeau. Does neb angen clywed “Llosg Llundain” am oriau. Yn enwedig ddim ar ocarina. — Dyle rhywun roid y blydi…
1409: Croesdynnu
Mae rhywbeth wedi croesdynnu meddwl Dewi Sant oddi wrth Duw. O na. Dim eto. Beth sy’ wedi digwydd? Roedd pethau’n ddigon wastad am unwaith. Ond yn anffodus aeth Dewi Sant i sêl cist car ar y penwythnos, dod o hyd i ocarina blastig, a’i phrynu. Byth ers hynny, mae e wedi bod yn yswitio bant…
