Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi cyfraith newydd ynghylch yfed. Nid yw e’n gyfreithlon i yfed alcohol bellach. Does dim ots gyda Dewi Sant. Heddiw, mae e’n codi, tanio ffag ac agor potel o gwrw, fel arfer. Yn syth bin, mae’r heddlu yn cyrraedd a’i arestio. Maen nhw’n ei wthio fe i mewn i’w fan, a’i yrru…
Month: June 2022
Yn y Carchar
Mae Daf y gath yn y carchar. Eto. Mae hi wedi cael ei harestio am brotestion yn erbyn arestiad selsig Franz Kafka. Ydy hi’n haeddu bod yn y carchar? Nac ydy. Wnaeth hi frwydro yn erbyn y ffasgwyr yn effeithiol? Naddo. A fydd hi yn y carchar am oesoedd? Bydd. Oedd hi’n disgwyl cael ei…
Ffasgwyr
Mae selsig Franz Kafka’n protestio yn erbyn yr hanner-siarc, sydd yn ceisio jyglo nhw yn lle peli. Mae’r selsig yn rhyfeddol o swnllyd. Yna, yn sydyn, mae’r heddlu’n dod i’r ardd. Mae ugain ohonyn nhw. Ar ôl brwydr fer, mae’r heddlu’n arestio’r selsig â thrais anghyfartal, a diflannu. Mae’r cathod wedi bod yn gwylio â…
Holi ac ateb
Mae Daf y gath yn ymarfer ateb cwestiynau. Mae’r staff yn gofyn cwestiynau yn barhaol. – Daf, wyt ti eisiau bwyd? – Oes. – Wyt ti yn y gegin yn barod? – Ydw. – Ydy Jeff gyda ti? – Nac ydy. – Go iawn? – Ie. – A fydd Jeff yn dod i mewn o’r…
Hei Jiwd
Mae Paul McCartney wedi dod i’r ardd. Mae e wedi bod yn hollol styc yn canu rhan terfynol y gân Hei Jiwd ers wythnosau. Mae e’n edrych braidd yn orwyllt. Mae Daf y gath yn cynnig diod iddo. – Helo, Paul McCartney, meddai Daf. – Wyt ti eisiau dysglaid o de? – Na na na…
Angladd
Mae un o selsig Franz Kafka wedi marw. Mae Franz Kafka’n drist. Mae e’n llefain. – Beth ddigwyddodd i’r selsigen? gofynna Daf y gath, heb ddiddordeb. – Clefyd byr, meddai Kafka, sydd yn rhyfeddol o fach. – Beth am i ni drefnu angladd? Byddai’n esgus da am barti. Gallen ni ffrio’r corff a’i rannu. Mae…
Rhieni Dewi Sant
Mae rhieni Dewi Sant wedi troi lan. Dyw Dewi Sant ddim yn hoff iawn o’i rieni. Dyw rhieni Dewi Sant ddim yn hoff iawn ohono fe, chwaith. Iddyn nhw, mae Dewi yn siom eithriadol, does dim ots beth mae e’n gwneud. Hyd yn oed ar ôl iddo fe ddod yn sant, dyw e ddim yn…
At y Milfeddyg
Mae rhaid i Daf y gath fynd at y milfeddyg. Ond, yn lle mynd at y milfeddyg, mae Daf yn gwneud rhywbeth od. Mae Daf yn mynd i’r milfeddyg. Mae’n gynnes ac yn dawel y tu fewn i’r milfeddyg. Ond nid yw’r milfeddyg mor gyffyrddus efo cath y tu fewn iddo. Saesneg / English To…
Fan Newydd, rhan 3
Mae Daf y gath yn chwilio am fan newydd, er mwyn iddi hi ailddechrau ei dosbarthiadau. Doedd yr Archfadarch ddim llawer o help. Doedd yr Archfadarch ddim lot i help o gwbl. Ond, wedi’r cwbl, mae Daf wedi dod o hyd i fan newydd ar ei phen ei hunan o’r blaen. – Daf, ‘drych! ebycha…
Fan Newydd, rhan 2
Mae’r Archfadarch wedi bod yn rhannol lwyddiannus. Ar ôl iddo fe wneud ei ddefod hudol, mae ysbrydion Ryan Davies a Harry Secombe yn sefyll yn yr ardd. Mae ysbryd Ryan Davies yn dechrau canu “Myfanwy”. Mae ysbryd Harry Secombe yn dechrau canu emyn, gyda thrac sain cawslyd. – Alla i ddim dioddef hyn. Bydd rhaid…
