Mae Daf y gath yn meindio ei busnes ei hun pan mae rhywun yn dod i’r ardd. Dyma Dafydd Iwan. Ydy e’n hapus? Nac ydy. Pam lai? Achos bod Bryn Terfel wedi torri addewid. Roedd e i fod i fynd i dŷ Dafydd Iwan am swper, ond mae e’n dal i aros gyda’r Corinthiaid. Ydy…
Month: January 2023
473: Trethi
Nid yw Daf y gath yn hoff iawn o dalu trethi. Bob blwyddyn, mae hi’n llenwi ei ffurflen trethi ar y funud olaf. Ond dyw hi byth yn dweud y gwir. Bob tro, mae hi’n sôn am gwpl o fuddsoddiadau a dim byd arall. Mewn gwirionedd, mae hi’n ennill swm annisgwyl o arian trwy ei…
472: Cariad
Mae Bryn Terfel yn aros gyda’r Corinthiaid, gan nad oes neb yn yr ardd yn gallu fforddio ei fwydo e bellach. Mae e’n canu cân operatig am gariad yn y gegin. Mae’r waliau’n ysgwyd. Mae Sioned, merch y Corinthiaid, yn gwrando o’i hystafell. Mae hi’n cwympo mewn cariad â llais Bryn Terfel. Ond nid yw’r…
471: Gwyliau
Mae Bryn Terfel ar ei wyliau. Gan fod pawb yn yr ardd yn methu fforddio ei fwydo mwyach, mae Dewi Sant wedi rhoi Bryn Terfel mewn blwch cardbord a’i anfon at y Corinthiaid. Mae Daf y gath yn hapus iawn. Bellach, mae arian ar gyfer Dreamies yn lle gorfod prynu tunnelli o fananas. Mae Bryn…
470: Llythyr arall Dewi Sant at y Corinthiaid
Annwyl Corinthiaid, Yn anffodus, gorfodaf eich gofyn am gymorth. Yn sgil y cynnydd mewn costau byw, ni allwn fforddio bwydo’r enwog Bryn Terfel rhagor. Nid wyf erioed wedi gweld y math hwn o newyn. Dim ond ddoe, bwytodd chwe thunell fetrig o fananas. Allech chwychwi cynnig cartref iddo ef am gyfnod? Cofion, Dewi Sant Saesneg…
469: Menter mathemateg
Mae Daf y gath am ennill ychydig o arian. Mae hi wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi eisiau addysgu dosbarth mathemateg. – Be ti mynd ‘mlan amdan nawr? meddai Jeff ei chwaer. – Bydd pobol yn talu digon o arian i ni brynu lot o Dreamies, ateb Daf. – Ond ti methu rhifo,…
468: Gwaith
Mae Dewi Sant yn gorfod mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl seibiant. Mae e wedi derbyn llythyr crac gan yr Esgob sydd yn gorchymyn iddo fe ddychwelyd i’r eglwys gadeiriol. Nid yw Dewi Sant am fynd yn ôl. Mae e’n procrastineiddio. Mae e’n gwastraffu amser wrth aros yn y gwely. Mae’r cathod yn hapus…
467: Tafarn
Mae Dewi Sant yn y dafarn eto. Mae e wedi yfed llawer o beintiau a bwyta llawer o greision. Mae Daf y gath wrth ei ymyl, yn cael profiad seicedelig ar y catnip. Mae’n amser mynd adref. Ond mae Daf mewn dimensiwn arall, lle nad yw eu cartref nhw yn bodoli. Mae gan Dewi Sant…
466: Siwt
Mae Daf y gath wedi prynu siwt a het beltoper newydd. Roedd hi eisiau siwt oren, fel ei ffwr hi. – Beth yw’r pwynt? meddai Jeff. – Ti’n edrych yn gwbl noeth. – Ond mae’r het yn ysblennydd. – Ydy, mae’r het yn ysblennydd. Yn anffodus mae Bryn Terfel ac Eifion yr octopws ill dau…
465: Menter cardiau busnes
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi’n mynd i argraffu cardiau busnes. – Jeff, ‘drycha! Dwi wedi neud sawl cerdyn yn barod, meddai Daf yn gyffrous. Mae Daf yn dangos cerdyn i Jeff. ‘Dydyn nhw ddim yn gwneud argraff dda ar Jeff. – Dim ond llunie ohonot ti y’n nhw….
