Mae Crispin wedi cyrraedd yr ardd. Ci newydd yw Crispin. Milgi yw e. Digwydd bod, mae e’n hoff iawn o ymlid pethau, yn gynnwys cathod. Ond am nawr, mae e wrthi’n hela’r afancod allan o’r ardd. Cyn bo hir, mae tawelwch unwaith eto. Adfail yw sied Dewi Sant, ond mae pawb yn hapus. Mae Daf…
Category: Afancod
395: Afancod, rhan 5
Mae Daf y gath a’r afanc mae hi wedi gwerthu ar-lein yn trio ffeindio’r ficer sydd wedi ei brynu. Yn y cyfamser, mae Jeff y gath yn cael llawer o drafferth gyda’r pum cant o afancod eraill. Maen nhw’n cnoi popeth. Ond waeth byth, maen nhw’n dwyn bwyd Jeff. A’r Dreamies. Dyw hi ddim yn…
394: Afancod, rhan 4
Mae hi wedi nosi. Ar ôl i fan Daf dorri i lawr, mae hi’n cael ei synnu gan ba mor ufudd yw’r afanc. Mae’r afanc yn cadw ar ei sawdl heb achosi unrhyw drafferth, ac maen nhw’n mynd ymlaen mor ddiogel â phosib. Ond mae Lloegr yn lle ofnadwy o beryglus. Mae anghenfilod ar y…
393: Afancod, rhan 3
Mae Daf y gath yn dosbarthu afanc i ficer neis yn Lloegr yn ei fan (sydd yn flwch cardbord cyflym iawn). Mae’r ficer wedi prynu’r afanc ar-lein. Dyma fenter newydd Daf. Mae Daf yn ofni Lloegr. Y tro diwethaf iddi fod yno fe wnaeth dyn dychrynllyd o Reoli Plâu geisio ei charcharu. Heb sôn am…
Afancod, rhan 2
Mae Daf y gath wedi dechrau menter newydd. Mae hi’n gwerthu afancod ar-lein. Erbyn hyn mae hi wedi gwerthu pump ohonyn nhw. Does dim ond pum cant ar ôl. Heddiw mae hi wedi gwerthu afanc i ficer neis yn Lloegr. – Beth mae ficer yn mynd i wneud gydag afanc? gofynna Jeff y gath. –…
Afancod
Mae cannoedd o afancod yn yr ardd. Maen nhw’n cnoi popeth, yn gynnwys sied Dewi Sant. Mae Dewi Sant yn ceisio eu heidio nhw. – Beth sy’n mynd ymlân fan hyn? gofynna Daf y gath. Mae Dewi Sant yn oedi, wrth dynnu ar ei sigarét. – Mae gen i gynllun, meddai ef. – Yr ydwyf…
