Mae’r chwarter-siarc wedi cael hunllef am ei beli jyglo. Yn yr hunllef, roedd y chwarter-siarc yn jyglo ar ben mynydd yn yr oriau mân. Ond dygwyd ei beli fesul un. Pwy ddygodd y peli? Pryf cop anferth. Mae’r chwarter-siarc yn deffro mewn chwys oer. O na. Mae ei beli jyglo wedi mynd yn y byd…
Month: March 2023
534: Llythyr Santes Non
Mae Dewi Sant wedi meddwi unwaith eto. Mae ei fam e, sef Santes Non, yn teimlo’n siomedig iawn ynddo fe. Mae hi’n teimlo’n siomedig, ac yn grac. Ond beth yw’r sŵn hwnnw? Beth mae Santes Non yn ei wneud? Mae hi wrthi’n sgriblo’n gynddeiriog ar ddarn o bapur. Mae hi wedi bod yn bygwth y…
533: Pla
Mae sawl côr meibion ychwanegol wedi ymddangos yn yr ardd. Nid yw hyn yn arbennig o ddoniol. Maen nhw fel pla. Pla meddw. Maen nhw’n yfed gwin Dewi Sant i gyd a chwrso ar ôl Santes Dwynwen a’r cathod, sydd ddim yn hapus o gwbl. Mae’r ardd mewn anhrefn. Mae’r Esgob wedi hen fynd, felly…
532: Perfeddion yr Esgob
Mae’r Esgob wedi cyrraedd yr ardd. Mae e’n mynd i ddelio gydag aelodau meddw’r côr meibion a ymddangosodd yn y stori flaenorol. Mae’r Esgob eisiau cael gair gydag arweinwr y côr. Mae golwg difrifol iawn arno fe. Yn anffodus, mae perfeddion yr Esgob yn camymddwyn. Mae e’n rhechu’n uchel bob yn ail funud. Mae cwmwl…
531: Côr meibion
Mae côr meibion arall wedi ymddangos yn yr ardd. Mae’r holl gôr wedi meddwi, ac mae sawl aelod yn ffraeo gyda’r tatws. Mae’r Prifdaten yn anhapus iawn. Mae e’n mynd i ofyn i’r Archfadarch berfformio defod a fydd o help. – EFALLAI ALLECH CHI FWRW SWYN ARNYN NHW, mae’r Prifdaten yn bloeddio mewn priflythrennau. Ond…
530: Wyneb i waered
Ar ddamwain, mae’r Archfadarchen wedi bwrw swyn sydd wedi troi popeth wyneb i waered. Mae peiriant cwstard Santes Dwynwen wyneb i waered. Mae cwstard yn llifo allan ohono fe dros y llawr. Mae sied Dewi Sant wyneb i waered. Mae hi fel cwch bychan sgwâr. Yn olaf, mae’r enwog Bryn Terfel wyneb i waered. Mae…
529: Daf yn yr Almaen
Mae Daf y gath wedi teithio i’r Almaen heb Franz Kafka, sydd wedi mynd adre, yn llefain, achos nad oedd brechdanau selsig ar gael yng nghaffi’r maes awyr. Mae Daf yn achosi trafferth ar fwrdd yr awyren, felly mae’r hediad yn cael ei oedi. Mae Daf yn cyrraedd maes awyr Düsseldorf yn hwyr iawn. Ond,…
528: Maes awyr
Mae Franz Kafka am hedfan i’r Almaen. Mae e wedi clywed bod selsig penigamp yn y wlad honno. Mae e’n gyrraedd maes awyr Caerdydd am 6 y.b. gyda’i fag. Does dim byd yn ei fag heblaw am Daf y gath, sydd am gael bach o hwyl trwy achosi trafferth ar fwrdd yr awyren. Pam mae…
527: Papur bro
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi’n mynd i gyhoeddi papur bro. Ond pwy sy’n mynd i ysgrifennu’r erthyglau? Mae Santes Dwynwen yn mynd i ysgrifennu cyfres o ddarnau am oes aur cwstard yng Nghymru. Bydd hynny o ddiddordeb i bawb. Siŵr o fod. Mae Dewi Sant yn mynd i…
526: Rhywbeth amheus
Un tro, gwelodd Daf y gath rywbeth amheus yn yr ardd. Roedd Y Rhywbeth Amheus yn ddu, mawr. Hedfanai o gwmpas yr ardd cyn diflannu’n sydyn. Cododd Y Rhywbeth Amheus ofn ar Daf. Byth ers hynny, mae hi wedi bod yn cuddio yn sied Dewi Sant. – Be sy’n bod arnat ti? gofyn Jeff ei…
