Unwaith iddyn nhw gyrraedd y blaned Mawrth, sylweddolodd Daf taw Jeff oedd yn hollol gywir. Doedd dim bwyd. Roedd llwch ym mhobman, a diffyg llwyr o catnip. Ac nid oedd dim ond un tun o fwyd cathod ganddynt, er mwyn cadw’r pwysau’n isel. – Be ni’n mynd i neud nawr? gofynnodd Jeff. – Sai’mod, sdim…
Category: Daf a Jeff yn y gofod
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 4
– Dwi’n gwbod be sy’ angen, meddai Daf ar ôl iddi ddihuno’n llwyr. – Beth? ymatebodd Jeff. – Mwy o fflwff. Byddai’r roced yn gweithio’n well gyda mwy o fflwff. – Da iawn. Felly, ychwanegodd Daf maint arwyddocaol o fflwff i’r blwch cardbord, ac yna thanio’r injan. Roedd y roced yn swnio’n fwy effeithiol o…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 3
Gadawodd Santes Dwynwen sied Dewi Sant mewn pryd i weld blwch cardbord yn hedfan trwy’r awyr. Cyrhaeddodd y blwch uchder o gan metr cyn cwympo fel carreg a glanio yn yr ardd drws nesa. Ymddangosodd Daf yn ei siwt-gofod-bag-plastig, â golwg dryslyd arni. – We fi’n disgwyl i’r blaned Mawrth i fod yn fwy coch,…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 2
Daeth Daf o hyd i flwch cardbord delfrydol am wneud roced. Roedd e’n ysgafn ac yn eitha bach, ond yn ddigon mawr i gario’r ddwy gath. Craffodd Jeff ar y blwch. – Beth am siwtie gofod? Ni angen siwtie gofod. Byddwn ni’n mygu fel arall. – Wes siop siwtiau gofod yn yr ardal? gofynnodd Daf,…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 1
Un tro, deuai llawer o guro o gornel yr ardd. Roedd Daf y gath yn eistedd ar y ddaear gyda morthwyl yn ei phawen, a llanast o bren o’i chwmpas. – Be ti neud fan hyn, Daf? meddai Jeff y gath, yn amheus o’i chwaer fel arfer. – Dwi’n adeiladu roced, atebodd Daf. – Pam?…
