Yn sydyn, mae pawb yn clywed sŵn rhatlan o’r buarth. Beth sy’n digwydd? Mae Daf y gath yn edrych allan drwy’r ffenestr. — So chi byth yn mynd i gredu hyn, meddai hi. Mae beic modur Waldo Williams yn gyrru ei hun. Bydd damwain cyn hir, siŵr o fod. Oes ysbryd yn gyrru’r beic modur?…
Month: January 2025
1185: Gweddi’r Esgob
Yn siop gwstard Santes Dwynwen, mae’r Esgob yn ceisio gorfodi pawb i ddysgu ei weddi newydd. Dyw e ddim yn hapus bod Jeff y gath a T. H. Parry-Williams wedi bod yn ceisio dal ysbrydion, felly dyma eu cosb nhw. Mae Dewi Sant yn gwrthod dysgu’r weddi newydd. Mae e’n dweud ei bod hi’n blentynnaidd….
1184: Sbŵci
Ymddengys bod rhywbeth goruwchnaturiol yn digwydd y tu mewn i siop dybaco Dewi Sant. O diar. Beth sy’n digwydd? Mae ysbryd yn cwyno am oedfa ddiweddaraf Dewi Sant. Arhoswch am eiliad. Dyna’r Esgob, yn gwisgo cynfas. Yn anffodus, cynfas ffitiedig yw hi, felly mae’r elastig yn amlwg. Nid yw’r Esgob mor sbŵci wedi’r cwbl. Saesneg…
1183: Presenoldeb
Mae Jeff y gath wedi synhwyro presenoldeb od yng nghegin Santes Dwynwen. Mae’r tymheredd wedi gostwng yn sydyn, ac mae rhywbeth yn cnocio y tu ôl i’r ddresel. Yn sydyn, mae ysbryd yn ymddangos oddi dan y ddresel. Mae’r ysbryd yn wyn ac yn fach, ac mae’n crynu. Mae’r ysbryd yn dechrau udo. Mae T….
1182: Trist
Mae T. H. Parry-Williams yn drist iawn. Pam mae T. H. yn drist? Mae T. H. yn drist achos nad yw e wedi dal ysbryd yn ei rwyd fawr eto. Pam nad yw e wedi dal ysbryd? Dyw e ddim wedi dal ysbryd achos bod dal ysbryd mewn rhwyd yn syniad twp. Digwydd bod, mae…
1181: Curo
Mae rhywun yn curo’r drws. Wel. Efallai taw’r gwir yw bod rhywbeth yn curo’r drws, yn hytrach na rhywun. Mae’r ysbryd swnllyd yn parhau i daflu pethau o gwmpas siop gwstard Santes Dwynwen. Ond nawr mae’r drws yn cael ei guro. Mae Jeff y gath yn edrych drwy’r ffenestr. Does neb yno. Am arswydus! Arhoswch…
1180: Ysbrydion yn y cwstard
Mae’r enwog T. H. Parry-Williams a Jeff y gath yn hela ysbrydion. Mae T. H. yn gobeithio dal ysbryd yn ei rwyd fawr. — Beth am i ni fynd i siop gwstard Santes Dwynwen? gofyn Jeff. Mae T. H. yn gwneud sŵn fel ych. Mae hynny’n meddwl ei fod e’n cytuno. Arhoswch am eiliad. Pwy…
1179: T. H.
Pwy fydd yn cymryd lle’r enwog Bryn Teribl nawr ei fod wedi gadael? Yr enwog T. H. Parry-Williams, dyna pwy! Ydy e’n gwybod y peth cyntaf am weldio? Nac ydy. Dyw e ddim yn gwybod y peth cyntaf am weldio. Ydy e’n gwybod y peth cyntaf am chwarae’r gitâr fas? Nac ydy. Dyw e ddim…
1178: Diflaniad Bryn Teribl
Mae digwyddiad goruwchnaturiol arall wedi digwydd yng ngweithdy weldio Bryn Teribl. Mae Bryn Teribl wedi diflannu! O diar. Ydy e’n chwarae mig? Nac ydy. Ydy e wedi troi’n ysbryd? Nac ydy — fel arall byddai T. H. Parry-Williams wedi ei ddal e yn ei rwyd fawr. Felly, beth sy’ wedi digwydd? Mae Bryn Teribl wedi…
1177: Digwyddiadau goruwchnaturiol
Pwy fydd yn helpu Jeff y gath a’r enwog Waldo Williams i hela ysbrydion? Dyma’r enwog T. H. Parry-Williams. Mae rhwyd fawr gydag e. Ble ydyn nhw’n mynd i chwilio am ysbrydion? Wrth reswm, maen nhw’n mynd i ddechrau yng ngweithdy weldio’r enwog Bryn Teribl. Oes digwyddiadau goruwchnaturiol wedi bod? Oes. Mae Bryn Teribl wedi…
