Mae’r Flwyddyn Newydd yn agosàu. Mae Daf a Jeff yn bwriadu bod yn gathod gwell yn 2022. “Beth yw dy addunedau Blwyddyn Newydd, Jeff?” gofynna Daf, yn llyfu ei thraed. “Bwyta gormod, lladd mwy o lygod, a dy anwybyddu di,” ateba Jeff, a bant â hi. “Dw i’n mynd i gymryd drosodd y byd i…
Month: December 2021
Y Pla – rhan 3
Cyn hir, roedd Franz Kafka wedi clirio’r ardd o waed, ac roedd pawb yn llawn dop o bwdin du. Hepiai’r cathod, oedd yn awr yn rownd iawn. – Pla nesa amdani, meddai’r pla, gan chwifio ei dentaclau. – Beth? mwmianodd Daf y gath, yn dihuno’n araf. – Ni ddim ‘di dod yn ôl at ein…
Y Pla – rhan 2
Ar ôl i’r pla glirio lle yn sied Dewi Sant i fwyd cathod, trawyd Daf y gath gan sylweddoliad bod rhywbeth o’i le. Roedd y pla yn chwarae yn hapus gyda Draig y ci mewn cornel, wrth i Franz Kafka canu cân fudr am selsigen Nadoligaidd. – Esgusodwch fi, Mistar Pla, meddai Daf, yn rhyfedd…
Y Cyhoeddiad
Un tro, roedd Daf y gath bach yn nerfus. Roedd wedi bod yn aros am yr eiliad iawn am ei gyhoeddiad. Neu, â bod yn hollol gywir, ei chyhoeddiad. – Jeff, meddai Daf, – Dere fan hyn, mae genna i rywbeth i ddweud wrthot ti. – Iawn, meddai Jeff. – Be’ sy’? Oediodd Daf. –…
Y Pla
Un tro, daeth rhywbeth od i fewn i’r ardd. Rownd, gwyrdd oedd e, â thentaclau ym mhobman. – Helo, meddai’r peth. – Pla dw i. – Dim heddi, diolch, meddai Daf y gath, a oedd yn llyfu ei draed. – Oni bai wyt ti’n gallu helpu clirio bach o le yn sied Dewi Sant. Ni’n…
Ymddiswyddiad
Mae’r esgob yn ymlacio yn ei fath, efo’i “ffrind” brydferth, wrth i lythyr gyrraedd. Annwyl Esgob, Yn anffodus, dydy Dewi Sant ddim yn gallu gweithio ichi ragor, achos mae’n ofynnol iddo fynychu adloniant ysgafn mewn theatr yng nghanolbarth Lloegr. Ar ôl iddo fynd yn ôl, bydd e’n rhy brysur yn tynnu ei ben-gliniau i ffwrdd…
