
Collodd Daf y gath y grŵf tra’n ymarfer gyda’r band Y Pryfed Pren yn y Fatican. Nawr, mae hi’n trio ffeindio fe.
Ond ble mae’r grŵf wedi mynd?
Yn amlwg, dyw e ddim yn y Fatican ei hunan. Fel arall byddai’r cardinaliaid i gyd yn grŵflyd.
Nid ydynt.
Mae Daf yn cwrdd â siaman y tu fas i’r Fatican. Yn ystrydebol, Giuseppe yw ei enw e. Mae Giuseppe off ei ben ar gyffuriau.
— Helo, medd Daf. — Fi’n chwilo am y grŵf. Ti di gweld e?
Mae Giuseppe yn gwenu gwên ynfydiog.
— Mae’r grŵf yn mewnol, mýn. Bydd rhaid i ti chwilio y tu fewn i ti dy hunan.
— Iawn, medd Daf. — Wnei di rannu dy gyffuriau, felly?