Mae’r cardinaliaid i gyd ar fin cynnal oedfa i ddathlu Pab Owain yr Ynfytyn. Mae Owain Glyndŵr yn eistedd ar orsedd, yn ffidlo â rhywbeth ym mhoced ei urddwisg babaidd. Mae e’n driblo. Yn sydyn, dyma’r enwog Bryn Teribl yng nghwmni Daf y gath a’i chwaer Jeff. Mawredd. Fydd ffeit? Bydd. Siŵr o fod. Arhoswch…
Month: April 2026
1356: Mwg gwyn
Yn y Fatican, mae rhywun wedi cynnau tân er mwyn creu mwg gwyn a dangos i’r byd bod Pab newydd, sef yr enwog Owain Glyndŵr, wedi cael ei ethol. Ar adenydd gweddi, mae’r ynfyd Owain Glyndŵr wedi cael ei drawsgludo i’r Eidal. Mae e’n barod. Ond mae’r Pab cyfredol yn dal y swydd o hyd….
1355: Swydd Owain
Beth am yr enwog Owain Glyndŵr? Ydy Owain yn bwriadu ymgeisio am swydd fel nawddsant? Mae’n dibynnu. Mae e’n genfigennus iawn o agorwr poteli Bryn Teribl, oherwydd nad yw Bryn wedi bod yn chwarae gydag Owain yn ddiweddar. Ydy Owain yn ddigon call i fod yn sant? Nac ydy, wir. Ond dyw’r mwyafrif o weithredwyr…
1354: Swydd Dewi
Mae Dewi Sant wedi penderfynu’r hoffai gael swydd nawddsant agorwyr poteli. Byddai’n newid da iddo. Mae e wedi cael hen ddigon o’r “pethau bychain” uffernol. Ond wrth gwrs, mae’r enwog Bryn Teribl am ymgeisio am y swydd hefyd. Yn ôl ef, fe yw’r unig ymgeisydd addas oherwydd ei berthynas angerddol â’i agorwr poteli ei hunan….
1353: Ailymgeisio
Mae newyddion brawychus wedi cyrraedd Crymych. Mae’r Esgob wedi diswyddo’r seintiau i gyd a dweud bod rhaid iddyn nhw ailymgeisio am ei swyddi eu hunain. Ond bydd cystadleuaeth agored hefyd. Felly bydd hi’n bosib i bawb ymgeisio am nawddseintiolaeth wahanol. All pobl ac anifeiliaid sy’ ddim wedi cael ei ganoneiddio wneud ymgais? Yn sicr. Mae’r…
1352: Agorwr poteli
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi dod o hyd i agorwr poteli, wedi iddo ddiflasu ar ei agorwr tuniau. Mae Daf y gath yn gwylio wrth i Bryn agor drws yr oergell a dechrau siglo’r poteli o ddiodydd byrlymus i gyd. Rheda, Daf! Ymhen eiliadau, mae cawodydd o hylifoedd melys dros y lle i gyd, ac…
1351: Ffrind
Mae’r perthynas rhwng yr enwog Bryn Teribl a’i agorwr tuniau wedi datblygu’n sylweddol. Mawredd. Erbyn hyn, mae Bryn yn ystyried yr agorwr tuniau’n ffrind. Dyw e ddim wedi profi perthynas mor agos o’r blaen. Mae Daf y gath wedi trio dwyn yr agorwr tuniau droeon, heb lwyddiant, o achos bod Bryn yn ei gadw o…
1350: Agorwr tuniau
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi dod o hyd i agorwr tuniau. Duw a’n helpo. Mae e’n ceisio agor amrywiol bethau. Amrywiaeth o bethau, hynny yw, ond tuniau. Yr Iesu a wylodd. Fydd yr agorwyr tuniau’n agor y llen gawod? Na fydd. Fydd yr agorwyr tuniau’n agor Daf y gath? Dyw Daf ddim yn fodlon aros…
