1360: Menter Krautrock

Mae Jeff y gath wedi bod yn arsylwi ar y cardinaliaid i wneud yn siŵr bydd Bryn Teribl ac Owain Glyndŵr yn cael eu postio adref o’r Fatican yn eu blychau cardbord.

Yn y cyfamser, mae pethau gwallgof wedi bod yn llifo drwy’r porth y mae Julian Pope wedi ei agor rhwng ei gromlech yn y Fatican a’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel. Mae’r Fatican dan ei sang â thrigolion isddiwylliannol.

Maen nhw i gyd yn edrych fel bod angen cael bath arnyn nhw.

Dyma grŵp o ynfydion llawn bwriadau da. Maen nhw’n canu caneuon am ba mor neis byddai rhoi stop ar ecsbloetio llwyau. Mae’n nhw’n gwisgo siwmperi crap o siop elusen Merched y Wawr.

Dyma haid o diwtoriaid Cymraeg seicedelig, ac maen nhw am addysgu pawb am y treiglad trwynol. O diar. Does neb am ddysgu am y treiglad trwynol.

Dyma’r Pandas Pinc, ac maen nhw wedi bod yn ymarfer chwarae Krautrock.

Yn sydyn, mae Daf y gath yn cael syniad am fenter newydd. Er mwyn ceisio ffafr Julian Pope, bydd hi‘n trefnu Gŵyl Krautrock gyntaf y Fatican erioed!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.