Mae’r Archesgob newydd wedi bod yn gwneud llawer o addewidion. Mae e wedi addo i Santes Dwynwen bydd ei chwstard hi’n cael ei defnyddio yn ystod y cymundeb. Mae e wedi addo i Dewi Sant bydd caniatád iddo yfed y gwin cymun sydd ar ôl. Ac yn well fyth, bydd corff Crist yn cael ei…
Month: July 2026
1392: Archesgob
Mae Archesgob newydd yn yr archesgobaeth. Ac mae e wedi penderfynu ymweld â’i braidd. Doedd Dewi Sant ddim yn ymwybodol bod yr hen Archesgob wedi mynd, ond eto i gyd mae e wedi cuddio ei boteli o frandi a’i sigarennau rhag ofn iddyn nhw gael eu cymryd oddi arno. Mae Santes Dwynwen wedi bod yn…
1391: Tawel
Mae Baijel Garej wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Pam hynny? Mae e wedi bod yn bwyta milynau o bunnoedd. Felly all e ddim dweud celwyddau ar hyn o bryd. O’n i’n meddwl mai ymlacio ar ei wyliau oedd e. Nac ydy. Bwyta arian mae e. Mawredd yr adar. Sut mae ymgyrch Daf y gath…
1390: Llwgrwobrwyo
Mae Daf y gath yn sefyll yn yr isetholiad yn erbyn Baijel Garej. Yn anffodus mae Daf wedi ei llwgrwobrwyo. Mae hi’n hollol lygredig. O, Daf! Sut cafodd hi ei llwgrwobrwyo? Ymddangosodd dyn amheus o Rwsia a rhoi tunnell o Dreamies seicedelig iddi, er mwyn iddi fwynhau ei hun yn y Crymych Arall y tu…
1389: Golchi arian
O diar. Mae Daf y gath wedi bod yn golchi arian eto. Mawredd yr adar. O ble daeth yr arian? Daeth Owain Glyndŵr o hyd i’r arian o dan garreg yn yr ardd wrth chwarae â’i geir bach. Iawn. Ond o ble daeth yr arian yn y lle cyntaf? O Ynys Manaw. Mawredd. Sut mae…
1388: Ymgeiswyr
Bydd tri deg pedwar o ymgeiswyr yn sefyll yn yr isetholiad. Oherwydd anghysondebau gweinyddol, Baijel Garej yw 33 ohonynt. Mae ymgyrch Daf y gath yn mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi bod yn dosbarthu Dreamies seicedelig i bawb, felly maen nhw off eu pennau ar deithiau lliwgar. Pwy fyddai’n pleidleisio dros Baijel Garej…
1387: Limrig Jeff — Pum miliwn
Pum miliwn o bunne — am anrheg! Sdim angen astudio deddfeg — neith Daf gwario’r lot ar gyffurie yn Splott — mae hwnna’n bron fel rhesymeg.
1386: Limrig Daf — Ymgyrchu
Yn ymgyrchu ar garreg y drws wen i’n sefyll o flân bwthyn tlws — “Dyma fi, yr ymgeisydd, eich darpar arlywydd!” Fe ges i fy mwytho, a sws.
1385: Polisi
Bydd Daf y gath yn sefyll fel ymgeisydd yn yr isetholiad. Oes ganddi polisïau? Mae hi’n mynd i roi Dreamies seicedelig i bawb, fel bod y pleidleiswyr i gyd off eu oennau, ond does dim ganddi unrhyw bolisïau eraill. — Bydd angen mwy o bolisïau, y dwpsen, medd Jeff ei chwaer. — Iawn ‘te. ‘Wna…
1384: Rhoddion
Ar ôl iddi gyhoeddi bydd hi’n sefyll fel ymgeisydd yn yr isetholiad, mae Daf y gath wedi bod yn derbyn pob math o roddion. Pa fath o roddion? Pob math. Er enghraifft? Mae hi wedi derbyn llun o Syd Barrett wedi ei fframio. A fydd hynny’n ddefnyddiol yn ystod ei hymgyrch gwleidyddol? Siŵr o fod…
