Roedd rhaid i Dewi Sant gael gwared â’i ocarina ar ôl iddi gael ei thynnu yn ystod ei lawdriniaeth. Ond yn anffodus mae e wedi dod o hyd i grymgorn. Sut offeryn ydy crymgorn? Mae crymgyrn yn dyddio’n ôl i’r Canol Oesoedd. Maent yn swnio fel haid o wenyn candryll. Gwych. Ydy e’n ymarfer? Ydy….
1410: Llawdriniaeth
Mae Dewi Sant mewn theatr lawdriniaeth. O na. Beth sy’n bod arno? Wel. Fe fuodd yn ymarfer “Llosg Llundain” ar ei ocarina ail-law am teirawr, a gyrru Daf y gath a’r enwog Bryn Teribl o’u coeau. Does neb angen clywed “Llosg Llundain” am oriau. Yn enwedig ddim ar ocarina. — Dyle rhywun roid y blydi…
1409: Croesdynnu
Mae rhywbeth wedi croesdynnu meddwl Dewi Sant oddi wrth Duw. O na. Dim eto. Beth sy’ wedi digwydd? Roedd pethau’n ddigon wastad am unwaith. Ond yn anffodus aeth Dewi Sant i sêl cist car ar y penwythnos, dod o hyd i ocarina blastig, a’i phrynu. Byth ers hynny, mae e wedi bod yn yswitio bant…
1408: Glaswellt
Mae Daf y gath yn edrych allan drwy’r ffenest ar yr ardd. Pam? Beth mae hi’n ei wylio? Mae hi’n gwylio’r enwog Bryn Teribl. Beth mae Bryn yn ei wneud? Mae e’n rholio o gwmpas ar y glaswellt, yn noethlymun. Ydy e wedi cymryd gormod o Dreamies seicedelig Daf? Ydy. Mawredd yr adar.
1407: Nofel
Mae Dewi Sant wedi gorchymyn i’w gi artiffisial ysgrifennu nofel. Roedd e’n gobeithio cael ei ddiddanu wrth wylio’r ci artiffisial yn trio defnyddio ysgrifbin. Ond mae’r ci eisoes wedi cwblhau’r nofel a’i hanfon i ffôn symudol Dewi Sant. Am beth mae’r nofel? Mae’r nofel yn dilyn ci artiffisial ffantastig sy’n ysgrifennu nofel am gi artiffisial…
1406: Ci
Mae Santes Dwynwen wedi prynu ci robotaidd i gyd-fynd â Daf artiffisial Dewi Sant. Roedd y ci robotaidd yn ddrud iawn, ac roedd rhaid i Santes Dwynwen gwerthu llawer iawn o’i chwstard ffiaidd er mwyn ei fforddio. Pam mae Santes Dwynwen wedi prynu’r robot? Achos ei bod hi am ddangos ei bod yn Santes fodern….
1405: Daf a Jeff artiffisial
Mae Dewi Sant wedi penderfynu dylai cath robotaidd llenwi lle Daf y gath. Mawredd yr adar. Beth fydd yn digwydd i’r Daf go iawn? Bydd rhaid iddi hyfforddi’r Daf artiffisial newydd. Bydd y Daf artiffisial yr un mor anobeithiol â Daf ei hun. Am drist. Fydd ‘na Jeff artiffisial hefyd? Dyw hi ddim yn mynd…
1404: Gwaith celf
Mae Bryn Teribl wedi bod yn creu celfyddydwaith. O diar. Mae e wedi bod yn gorchuddio ei holl gorff noeth â phaent a rholio o gwmpas ar gynfas enfawr wrth wisgo ei het ysblennydd. Mae’n gwbl arswydus. Mae Daf y gath wedi bod yn recordio’r holl broses â chamera fideo. Y fideo fydd y gwaith…
1403: Adlifiad asid
Mae Dewi Sant yn dioddef o adlifiad asid, achos ei fod e wedi bod yn bwyta gormod o gwstard ffiaidd Santes Dwynwen. All e ddim llyncu’n iawn. O diar. Bydd angen mwy o win coch arno. Mae Daf y gath yn awgrymu dylai Dewi fynd i weld y meddyg. Ond byddai’r meddyg yn gofyn cwestiynau…
1402: Ymarfer corff
Dyw Dewi Sant ddim yn iach. O diar. Ydy ei fys wedi ei brifo? Nac ydy, dydyn ni ddim yn canu Sosban Fach heddiw. Mae Dewi Sant wedi codi pwysau, ac mae e wedi bod yn smocio gormod o sigarennau. Mae e’n teimlo’n rhy flinedig o lawer i helpu’r Pab codi diwygiad newydd yng Nghrymych….
