
Mae Daf y gath yn ymarfer gyda’r band Y Pryfed Pren yn y Fatican, ond mae rhywbeth yn bod.
Mae un o’r tiwtoriaid Cymraeg seicedelig a ddaeth drwy’r porth a agorodd Julian Pope yn ei gromlech yn dweud y drefn wrthyn nhw: maen nhw wedi colli rhywbeth.
Maen nhw wedi colli Y GRŴF.
Does dim pwynt trio meddiannu’r Pandas Pinc, felly, tan iddyn nhw ddod o hyd i’r grŵf eto.
Ond ble mae e?
Dyw Daf ddim yn gwybod sut olwg sydd arno. Ble byddai creadur mor anodd ei ddal yn ymguddio? O dan un o’r seddi? Yng nghromlech Julian Pope?
Ar ôl oriau o chwilota, mae’n dod yn amlwg nad yw’r grŵf yn y Fatican.
— Ble ti mynd, Daf? gofyn Jeff y gath wrth i odysea roc-ofod jazz-ffyncaidd Y Pandas Pinc ddod i ben.
— Fi’n mynd i chwilio am y grŵf, medd Daf.
— Pob lwc, medd Jeff. — Y dwpsen.