
Mae Dewi Sant yn dioddef o adlifiad asid, achos ei fod e wedi bod yn bwyta gormod o gwstard ffiaidd Santes Dwynwen. All e ddim llyncu’n iawn.
O diar.
Bydd angen mwy o win coch arno.
Mae Daf y gath yn awgrymu dylai Dewi fynd i weld y meddyg. Ond byddai’r meddyg yn gofyn cwestiynau annifyr am alcohol.
Cwestiynau hollol resymol.
Mae Jeff y gath yn gollwng llygoden farw wrth draed Dewi.
— Cymer un o’r rhain deirgwaith y dydd, medd Jeff, — a byddi di’n iawn.