1404: Gwaith celf

Mae Bryn Teribl wedi bod yn creu celfyddydwaith.

O diar.

Mae e wedi bod yn gorchuddio ei holl gorff noeth â phaent a rholio o gwmpas ar gynfas enfawr wrth wisgo ei het ysblennydd. Mae’n gwbl arswydus.

Mae Daf y gath wedi bod yn recordio’r holl broses â chamera fideo.

Y fideo fydd y gwaith celf.

A fydd rhywun yn gwylio’r fideo?

Na fydd. Bydd angen cael gwared â’r cynfas nes ymlaen, heb i Bryn sylweddoli, cyn i’r heddlu gyrraedd.

Mae Daf yn ymguddio y tu ôl i’r soffa.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.