1401: Llythyr

Mae Dewi Sant wedi derbyn llythyr drwy’r post. Dyw e ddim wedi derbyn llythyr ers blynyddoedd.

Pwy sydd wedi ysgrifennu’r llythyr?

Y Pab sydd wedi ysgrifennu’r llythyr.

Mawredd yr adar! Ydy Dewi wedi cael y sac eto?

Nac ydy, mae angen help ar y Pab. Mae Crymych wedi mynd yn rhy ddigrefydd yn ddiweddar, felly mae’r Pab yn gofyn i Dewi Sant fywiogi bywyd yr eglwys yn yr ardal. Mae angen diwygiad newydd.

Mae Dewi’n rhoi’r llythyr o’r neilltu. Mae e’n teimlo’n flinedig ar ôl ei ddarllen, heb sôn am ddechrau’r diwygiad. Mae e’n cynnau sigarét a meddwl.

— Hei Dewi, be ti neud? gofyn Daf y gath.

— Mae’r Pab isie i fi ddechre diwygiad nowydd yng Nghrymych, etyb Dewi. — Sdim llefeleth da fi shwd i neud ‘ny.

— Wfft i’r diwygiad, medd Daf. — Dwisie bwyd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.