
Mae Dewi Sant wedi gorchymyn i’w gi artiffisial ysgrifennu nofel.
Roedd e’n gobeithio cael ei ddiddanu wrth wylio’r ci artiffisial yn trio defnyddio ysgrifbin.
Ond mae’r ci eisoes wedi cwblhau’r nofel a’i hanfon i ffôn symudol Dewi Sant.
Am beth mae’r nofel?
Mae’r nofel yn dilyn ci artiffisial ffantastig sy’n ysgrifennu nofel am gi artiffisial ffantastig.
O diar.
Mae Daf y gath wedi dechrau ysgrifennu nofel hefyd.
Beth sy’n digwydd yn nofel Daf?
Yn nofel Daf, mae ci artiffisial yn trio dinistrio’r byd, ac fel canlyniad mae cath arwrol yn ei roi ar dân.
Mawredd yr adar.