
Mae Daf y gath wedi bod yn syllu ar y lawnt.
Ydy’r lawnt yn tyfu?
Ydy, mewn ffordd. Mae’n edrych fel pen dyn sydd ag alopesia. Mae’n amlwg na fydd y darnau moel yn adfer o’r sychder.
Mae Daf yn cael syniad.
Beth am iddi blannu Dreamies fel pe bydden nhw’n hadau?
Mae hi’n mynd i ymofyn y paced, gwneud tyllau bach yn y lawnt â’i hewinedd, plannu’r Dreamies, a dechrau aros.
Weithiau mae Daf yn gwallgofi Jeff ei chwaer. Roedd chwant snac arni.