1351: Ffrind

Mae Daf y gath wedi trio dwyn yr agorwr tuniau droeon.

Mae’r perthynas rhwng yr enwog Bryn Teribl a’i agorwr tuniau wedi datblygu’n sylweddol.

Mawredd.

Erbyn hyn, mae Bryn yn ystyried yr agorwr tuniau’n ffrind. Dyw e ddim wedi profi perthynas mor agos o’r blaen.

Mae Daf y gath wedi trio dwyn yr agorwr tuniau droeon, heb lwyddiant, o achos bod Bryn yn ei gadw o dan ei obennydd, fel gangster gyda’i ddryll.

Ond nid dryll mohono. Ffrind yw e. Annwyl ffrind.

O, Bryn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.