Ydy Owain yn deall beth sydd yn digwydd?

Yn y Fatican, mae rhywun wedi cynnau tân er mwyn creu mwg gwyn a dangos i’r byd bod Pab newydd, sef yr enwog Owain Glyndŵr, wedi cael ei ethol. Ar adenydd gweddi, mae’r ynfyd Owain Glyndŵr wedi cael ei drawsgludo i’r Eidal. Mae e’n barod.

Ond mae’r Pab cyfredol yn dal y swydd o hyd.

Am anghyfleus. Oes bosib cael dau Bab ar yr un pryd?

Nac oes.

Pam lai?

Byddai hynny’n drysu’r enwog Bryn Teribl, o leia. Ac mae gwisgoedd Pabaidd yn ofnadwy o ddrud.

Ond mae Bryn Teribl eisoes wedi drysu. Mae e am fod yn Bab hefyd. Mae e’n hoffi’r het.

O diar.

Rhywsut neu’i gilydd, mae Bryn yn perswadio’r cathod i’w helpu. Cyn bo hir maen nhw ar eu ffordd i Rufain i roi stop ar olyniaeth Owain.

Ydy Owain yn deall beth sydd yn digwydd?

Nac ydy.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.