
Mae’r cardinaliaid i gyd ar fin cynnal oedfa i ddathlu Pab Owain yr Ynfytyn. Mae Owain Glyndŵr yn eistedd ar orsedd, yn ffidlo â rhywbeth ym mhoced ei urddwisg babaidd. Mae e’n driblo.
Yn sydyn, dyma’r enwog Bryn Teribl yng nghwmni Daf y gath a’i chwaer Jeff.
Mawredd.
Fydd ffeit?
Bydd.
Siŵr o fod.
Arhoswch am eiliad, pam fod pentwr o gerrig newydd ymddangos ynghanol yr eglwys?
Hwrê! Mae’r enwog Julian Cope wedi cyrraedd, ac mae e’n bwriadu adeiladu cromlech ynghanol y Fatican, i adennill tir paganaidd sanctaidd o’r Pabyddion.
Am sefyllfa heriol.